Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

04/08/2017

Cofio canmlwyddiant Hedd Wyn - comisiwn gan y Brifwyl.

Cyfansoddiad gan y cerddor Paul Mealor a Grahame Davies oedd canolbwynt cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar Ynys Môn ar Awst 4th.

Y perfformiad yn y Pafiliwn

Roedd y cyngerdd 'A Oes Heddwch?' yn coffau canmlwyddiant marwolaeth y bardd Hedd Wyn a fu farw ym mrwydr Passchendaele ar Orffennaf 31 1917 ychydig cyn iddo ennill Cadair y Brifwyl.

Côr yr Eisteddfod, ynghyd â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a berfformiodd 'Gorffwysgan Hedd Wyn", a gafodd dderbyniad gwresog gan y gynulleidfa a chan adolygydd adolygydd y Daily Post.

Ceir fideo o berfformiad ail symudiad darn Mealor a Davies yma.

----------------------------------------------------------------------

(Isod ceir Datganiad i'r wasg Eisteddfod Genedlaethol Cymru)

Ganrif yn ôl, roedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei hanterth, gyda miloedd o fechgyn ifanc eisoes wedi’u lladd, a rhagor yn cael eu hanfon i’r Rhyfel bron yn ddyddiol.

Roedd y dyddiau o ddewis mynd yn filwr wedi hen ddiflannu a phob bachgen a dyn ifanc iach yn cael eu recriwtio i ymuno â’r Fyddin a’u hanfon i ymladd dros Brydain ar gyfandir Ewrop.

Brwydr a fydd yn cael ei choffau eleni yw Brwydr Passchendaele, cyflafan waedlyd ac erchyll lle y collodd dros hanner miliwn o ddynion eu bywydau, tua 325,000 ohonyn nhw o Fyddin Prydain a 260,000 o Fyddin yr Almaen. Parodd y frwydr am ychydig dros dri mis, wrth i’r ddwy ochr geisio ennill tir yng ngorllewin Fflandrys ger dinas Ypres.

Mae perthnasedd arbennig i’r frwydr hon yn hanes Cymru a hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. Ar 31 Gorffennaf 1917, diwrnod cyntaf y frwydr, lladdwyd Ellis Humphrey Evans, gwr ifanc o Drawsfynydd, bardd disglair a oedd wedi cystadlu am Gadair yr Eisteddfod y flwyddyn honno.

Lladdwyd Hedd Wyn, fel roedd pawb yn ei adnabod, cyn iddo gael gwybod ei fod wedi ennill y Gadair, ac yn y seremoni a gynhaliwyd yn yr Eisteddfod ym Mhenbedw ar 6 Medi 1917, brin fis ar ôl ei farwolaeth, taenwyd lliain du dros y Gadair er cof amdano.

Erbyn heddiw, mae stori’r Gadair Ddu ac aberth y bardd ifanc yn rhan annatod o hanes Cymru, yn cynrychioli colled pob teulu ar hyd a lled Cymru, ac yn symbol o erchylltra rhyfel a’r gymuned a adawyd ar ôl. Gan gymryd ysbrydoliaeth o hanes Hedd Wyn, a’r genhedlaeth o fechgyn na ddaeth adref o’r Rhyfel, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn agor gyda pherfformiad arbennig a fydd yn coffau’r Rhyfel union ganrif yn ôl, a hynny drwy lygaid y bobl.

Teitl y gwaith yw A Oes Heddwch? Teitl sy’n berthnasol, nid yn unig yng nghyd-destun y Rhyfel, ond hefyd yng nghyd-destun yr Eisteddfod a seremonïau’r Orsedd.

Rhan o’r cofio unigryw hwn fydd Gorffwysgan newydd gan y cyfansoddwr arobryn â’i wreiddiau ym Môn, Paul Mealor, gyda’r geiriau wedi’u creu’n arbennig gan y bardd adnabyddus, Grahame Davies.

Bydd y gwaith yn cael ei berfformio gan Gôr yr Eisteddfod Genedlaethol a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, fel rhan o gyfanwaith mwy, sy’n sicr o gyffwrdd y gynulleidfa ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ym Môn.

Wrth drafod y gwaith a’r bardd a’i hysbrydolodd, dywedodd Paul Mealor, “Mae hanes Hedd Wyn yn adnabyddus i unrhyw un sydd wedi’i fagu yng Nghymru, ac mae’n anrhydedd mawr i gael bod yn rhan o’r gwaith hwn sy’n ei goffau drwy gerddoriaeth.

“Bwriad y gwaith hwn, gyda geiriau gwreiddiol a dirdynnol Grahame Davies, yw cynnig ambell funud o heddwch a myfyrdod ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant, i goffau’r dyn, ei hanes a’i farddoniaeth.”

Mae gan deulu’r bardd Grahame Davies gysylltiad agos gyda’r Rhyfel Mawr, gan i’w daid, John William Davies, ymladd yn y Ffiwsilwyr Cymreig yn ystod y cyfnod, ac meddai,

“Mae hanes Hedd Wyn yn rhan annatod o'n profiad fel Cymry, yn un o storïau mwyaf dirdynnol y Rhyfel Byd Cyntaf fel y cyfryw, ac yn symbol o golli cenhedlaeth o fechgyn ifanc.

“Braint fawr oedd ceisio canfod geiriau newydd i adlewyrchu'r profiad o golled ac i gydweithio eto gyda chyfansoddwr mor hynod dalentog â Paul Mealor."

Mae Côr yr Eisteddfod yn ymarfer y Requiem ar hyn o bryd, ac wedi cael modd i fyw yn canu’r gwaith, a dywed Mari Lloyd Pritchard, sy’n cyd-lynu’r prosiect, “Mae pawb sy’n canu mewn côr yn ymwybodol o waith Paul Mealor, ac yn falch iawn o’r cyfle i gael perfformio darn o’i waith, a hynny gyda geiriau arbennig iawn Grahame Davies.

“Noson agoriadol yr Eisteddfod fydd premiere y gwaith arbennig hwn, ac mae’r ffaith ein bod yn perfformio ar lwyfan y Pafiliwn, a hynny i goffau canmlwyddiant y Rhyfel Mawr a Hedd Wyn yn anrhydedd mawr i ni yma yng Nghôr Eisteddfod Ynys Môn.”

Mae’r Orffwysgan yn rhan o gyfanwaith ‘A Oes Heddwch’, gyda rhannau eraill y gwaith wedi’u cyfansoddi gan Aled a Dafydd Hughes, sy’n fwyaf adnabyddus fel dau o frodyr y band Cowbois Rhos Botwnnog.

Mae’r geiriau i waith y ddau frawd wedi’u cyfansoddi gan Guto Dafydd, a’r cyfan wedi’i greu yn dilyn cyfres o weithdai a gweithgareddau cymunedol yn casglu gwybodaeth a gwrando ar straeon a hanesion teuluoedd.

Mae’r gwaith wedi’i drefnu ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gan John Quirk, a Siwan Llynor sy’n gyfrifol am lwyfannu’r prosiect. Yn ogystal â’r Côr a’r Gerddorfa, bydd amryw o unawdwyr amlwg hefyd yn perfformio ar y noson, a bydd enwau’r rhain yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, Cyngor Ynys Môn, Cyngor Celfyddydau Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Home


News


Books/Reviews


Poems


Contact


Website created by
Mabmedia