
Cartref:
Home:
Newyddion:
News: 
Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

|
 |
Bywgraffiad.
Newyddion. Llyfrau.
Gwobrau. Digwyddiadau.
Cerddoriaeth. Celf. Beirniad.
Sefydliadau. Erthyglau
Bywgraffiad
Enillydd
Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae Grahame
Davies yn fardd, yn awdur ac yn libretydd sydd wedi ennill nifer o wobrau
gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru
Y
mae wedi cyhoeddi 18 o lyfrau gan gynnwys Cadwyni Rhyddid, a enillodd
wobr Llyfr y Flwyddyn, y nofel Rhaid i Bopeth Newid, a roddwyd
ar y rhestr hir ar gyfer yr un wobr, yr astudiaeth o Gymru a'r Iddewon,
The Chosen People, yr astudiaeth o Gymru ac Islam The Dragon
and the Crescent, a'r cyfrolau seico-ddaearyddol poblogaidd, Real Wrexham
a Real Cambridge.
Yn frodor
o bentref Coedpoeth Wrecsam, y mae bellach yn rhannu ei amser rhwng
Powys
a Llundain. Y mae ganddo radd Saesneg o Brifysgol Anglia Ruskin yng Nghaergrawnt,
a doethuriaeth o Brifysgol Caerdydd, lle bu hefyd yn Gymrawd Ymchwil anrhydeddus
yn yr adran grefydd.
Mae hefyd
wedi derbyn gradd D.Litt er anrhydedd gan Brifysgol Anglia Ruskin, ac
ef yw is-lywydd Coleg Goodenough, Llundain. Mae'n
teithio'n rhyngwladol fel bardd a darlithydd, yn cyflawni llawer o gomisynau
amlwg ac yn cyd-weithio'n helaeth gydag artistiaid gweledol a cherddorol.
Yn 2020 fe gafodd ei benodi i Urdd Frenhinol Fictoria yn Anrhydeddau'r
Frenhines gyda gradd yr LVO.
Cyfieithiwyd
gwaith Grahame Davies i nifer o ieithoedd, ac mae hefyd wedi ymddangos
mewn cyhoeddiadau mor amrywiol â The
Times, The Times
Literary Supplement, The
Guardian, Poetry London, y Literary Review yn America,
Orbis (#136 Gwanwyn 2006), Yearbook of Welsh Writing in English,
Absinthe (Michigan, UDA, 2007), Kalliope (yr Almaen, 2009),
Poetry Review a chyfres Everyman Library Pocket Poets, Villanelles
(2012) mae wedi ei gynnwys hefyd mewn nifer fawr o flodeugerddi ac yn
rhan o'r cwricwlwm ysgol yng Nghymru.
__________________________________________________
Newyddion
Cyhoeddi Real Cambridge
Darlunio dinas dysg mewn cyfrol seico-ddaearyddol
Comisiwn gan yr Awyrlu Brenhinol
Perfformiad yn Neuadd Albert, Llundain
Cyfres newydd o ganeuon gwerin
Dathlu cysylltiadau Cymru ac Iwerddon
Mwy
o newyddion
__________________________________________________
Llyfrau
Real
Cambridge (Seren, 2021) cyfrol o seico-ddaearyddiaeth am
ddinas dysg dwyrain Lloegr, yn y gyfres Real, a olygwyd
gan Peter Finch.
Alcemi
Dwr / Alchemy of Water (Gomer, 2013) Gyda Tony Curtis, llyfr dwyieithog
am lynnoedd, afonydd, arfordiroedd a rhaeadrau Cymru, gyda lluniau gan
Mari Owen a Carl Ryan
Lightning
Beneath the Sea (Seren, 2012). Cyfrol unigol lawn gyntaf o farddoniaeth
Saesneg.
The
Dragon and the Crescent (Seren, 2011). Astudiaeth helaeth o berthynas
pobl Cymru a chrefydd Islam, fel y'i ceir mewn llenyddiaeth.
Real
Wrexham (Seren, 2007) Ailargraffwyd 2009. Gwaith seico-ddaearyddol
yn y gyfres Real, a olygwyd gan Peter Finch.
Everything
Must Change (Seren, 2007). Nofel Saesneg yn seiliedig ar Rhaid
i Bopeth Newid.
Gwyl
y Blaidd / Festival of the Wolf, Goln. Tom Cheesman, Grahame Davies
and Sylvie Hoffman (Parthian/Hafan, 2006). Blodeugerdd o waith am ffoaduriaid
a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Achos,
(Barddas, 2005). Trydedd gyfrol o farddoniaeth Gymraeg.
The
Big Book of Cardiff, Goln. Peter Finch & Grahame Davies (Seren,
2005). Blodeugerdd o ysgrifennu diweddar am Gaerdydd.
Rhaid
i Bopeth Newid, (Gomer, 2004). Nofel gyntaf a roddwyd ar y rhestr
hir ar gyfer gwobr £10,000 Llyfr y Flwyddyn
Nel
país de la borrina. (VTP Editorial, 2004). Detholiad o farddoniaeth
Gymraeg mewn cyfieithiad Galiseg
No
país da brétema (VTP Editorial, 2004). Detholiad o farddoniaeth
Gymraeg mewn cyfieithiad Astwreg
Ffiniau/Borders,
(Gomer, 2002). Cyfrol ddwyieithog o farddoniaeth gydag Elin ap Hywel.
The
Chosen People, (Seren, 2002). Astudiaeth o berthynas y Cymry a'r
grefydd Iddewig fel y'i ceir mewn llenyddiaeth.
Cadwyni
Rhyddid, (Barddas, 2001). (Ailargraffwyd 2001). Ail gyfrl o farddoniaeth
Gymraeg, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn.
Oxygen,
(Seren, 2000). Gydag Amy Wack, blodeugerdd ddwyieithg o waith beirdd
Cymreig o dan 45 oed.
Sefyll
yn y Bwlch, (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999). Astudiaeth o'r mudiad
gwrth-fodern fel y'i gwelir yng ngwaith Saunders Lewis, R.S.Thomas,
T.S. Eliot a SimoneWeil.
Adennill
Tir, (Barddas, 1997). Cyfrol gyntaf o farddoniaeth Gymraeg, a enillodd
Wobr Goffa Harri Webb.
Prif
wobrau ac ysgoloriaethau, ayyb:
- 2020:
Urdd Frenhinol Fictoria (LVO) yn Anrhydeddau'r Frenhines
2017:
Gwobr Cerdd yn addas i'w chanu. Eisteddfod Genedlaethol Cymru
2016:
Gwobr Y Soned Eisteddfod Genedlaethol Cymru
2011:
Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru am brosiect barddoniaeth.
2010:
D.Litt er anrhydedd gan Brifysgol Anglia Ruskin, Caergrawnt
2009:
Gwobr Lenyddiaeth Ruth Howarth ar gyfer Real Wrexham
2008:
Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd, Prifysgol Caerdydd.
2007:
Ysgoloriaeth yr Academi ar gyfer Wales and the Muslims.
2004:
Ysgoloriaeth yr Academi ar gyfer Everything Must Change
2004:
Cymrawd Coleg Goodenough, Llundain.
2004:
Cerdd Deyrnged, Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
2004:
Rhestr Hir Gwobr Llyfr y Flwyddyn ar gyfer Rhaid i Bopeth Newid
2002:
Gwobr Llyfr y Flwyddyn ar gyfer Cadwyni Rhyddid.
2001:
Enillydd, Stomp Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Yr Academi.
1998:
Ysgoloriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Wales and the Jews.
1997:
Gwobr Goffa Harri Webb ar gyfer Adennill Tir.
1994:
Gwobr Vers Libre Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Prif
Gomisiynau, Preswyliadau, Ymweliadau, Gwyliau a Darlithoedd.
2022 Darlleniad yn Abbey Hall Creative Space, Eye, Suffolk, ar gyfer y River Waveney Trust
2021 Darlith i Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, Cymru ac Islam.
2020 Gwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Llanelwy. Cyfweliadau a
darlleniadau. 2019 Preswyliad yng ngwyl JAM on the Marsh,
Caint.2018 Preswyliad yng ngwyl JAM on the
Marsh, Caint.
2018 Hiraeth- Erzolirzoli Wales-Cameroon anthology, Gol. Eric Ngalle Charles
2017 Seminar
creadigrwydd yn Fiena, Awstria,ar gyfer uwch-raddedigion Coleg Goodenough,
Llundain.
2016 Comisiwn
i goffau hanner canmlwyddiant Trychineb Aberfan gyda'r bardd Tony Curtis
a'r ffotograffydd I.C. Rapoport
2016 Gwyl
yr Edge, Solfa, Sir Benfro
2016 Gwyl
Llangwm, Sir Benfro
2016 Darlith
agoriadol cynhadledd ryngwladol, BRISMES, British Institute of Middle
Eastern Studies, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont
Steffan.
2016:
Cadeirio trafodaeth ar gyfer y Cyngor Prydeinig ar Shakespeare a Chymru
yng nghanolfan gelfyddydau Chapter, Caerdydd, gyda Gwyneth Lewis a Rakie
Ayola.
2016:
Darlleniad gyda Kevin Crossley Holland ar gyfer y Temenos Academy yn
y Lincoln Centre, Llundain.
2014:
Darlleniad gyda Kevin Crossley Holland yn y Festival of Ideas, Coleg
Pembroke, Caergrawnt.
2014:
Cynhadledd athroniaeth 'Meddwl', Aberystwyth
2014:
Cerddi ar gyfer Gwyl 'Sacred Site and Sound', Tyndyrn, Sir Fynwy
2013:
Cerdd ar gyfer gwyl farddoniaeth i ddathlu Samarkand, Uzbekistan.
2013:
Chelmsford Ideas Festival. Darlleniad gyda Malcolm Guite.
2013:
Cambridge Festival of Ideas. Darlleniad gyda Malcolm Guite.
2013:
Gwyl Lyfrau PENfro, Sir Benfro. 2013:
Gwyl y Gelli, lansio Alcemi Dwr / Alchemy of Water a noson i
ddathlu canmlwyddiant R.S.Thomas.
2012:
Cerdd yr wythnos yn y Guardian.
2011:
Cyfres darlleniadau Oxfam Poets, Llundain.
2011:
Cambridge Festival of Ideas, Trafodaeth panel ar fytholeg.
2011:
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth:
'Y Cilgant a'r Cymry.'
2011:
Cyfadran Diwinyddiaeth Prifysgol Caergrawnt, dan nawdd Cambridge
Muslim College; 'Wales and Islam'
2011:
Darlith Carnhuanawc; 'Cymru ac Islam': Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
2011:
Darlith ar Bryan Martin Davies gydag Elin ap Hywel, Eisteddfod Genedlaethol
Cymru2011:
Rhaglen BBC Cymru Wales All Things Considered . 2011:
Gwyl y Gelli, sesiwn ar The Dragon and the Crescent2010:
Sesiwn gyda John Hegley yng nghyfres 'On the Border', Cas-gwent.2010:
Rhaglen Great Lives ar BBC Radio 4 gydag Eleanor Bron a Matthew
Parris.2009:Taith
Gogledd America: darlleniadau a chyweithiau celfyddydol ym Mhennsylvania
a Vermont. Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Gwyl
Greenbelt, Cheltenham, Lloegr
2009:
Prifysgol Harvard, U.D.A. Darlith.
2008:
Darlleniadau yn Guglienesi, yr Eidal.
2008:
Pum darlleniad yn yr Ariannin.
2007:
Taith Gogledd America: darlleniadau a lansiad Everything Must Change
yn Delta, Pennsylvania; Westport, Connecticut, ac Adeilad y Chrysler,
Efrog Newydd, a darlith ym Mhrifysgol Yale. Celfyddydau Rhyngwladol
Cymru.
2007:
Cerdd Goffa i Gomisiynydd Plant Cymru.
2007:
Gwyl y Gelli, darlleniadau, lansiad arddangosfa 'Portreadau'r Beirdd.'
2007.
Imperial College, Llundain. Darlith.
2007:
Artist Preswyl yn ysgol haf y British Centre for Literary Translation,
Prifysgol East Anglia, Norwich.
2007:
Gwrthrych rhaglen hanner-awr All Things Considered ar BBC Radio
Wales.
2006:
Delta, Pennsylvania. Darlleniadau
2006.
Cape Town, De Affrica. University of the Western Cape. Darlith.
2005:
Madrid, Sbaen. Lansiad La Pais de la Borrina. Cyngor Prydeinig.
2005:
Cynhadledd Canu'n Rhydd, Llandudno, Academi. Darlleniadau a phanel.
2005.
Prifysgol Limerick, Iwerddon. Darlith.
2004:
Poesiefestival, Berlin. Gweithdai cyfieithu a darlleniadau. Cyngor
Prydeinig / Llenyddiaeth Cymru Dramor.
2004: Israel a Phalesteina. Ymweliad ymchwil. Swyddfa Dramor Israel.
2004:
Gwyl Gelfyddydau Greenbelt, Cheltenham. Darlleniad a gweithdai.
2004:
Cynhadledd NAASWCH Conference, Morgantown, WV, UDA. Darlith.
2004.
Gwrthrych rhaglen hanner-awr Dechrau Canu Dechrau Canmol, S4C
2003:
Comisiwn yr Academi ar gyfer Cerdd Fawr Caerdydd
2003;
Comisiwn gan Dywysog Cymru; cerdd ar gyfer Eisteddfod Gydwladol Llangollen.
2003:
Edmonton, Canada. Darlith a darlleniadau yng nghynhadledd 'Culture
and the State'. Cyngor Prydeinig.
2002: Sofia, Bwlgaria. Darlleniadau a lansiad rhifyn Cymreig Plamak.
Cyngor Prydeinig.
2002:
Lublin, Gwlad Pwyl. Darlith. Cyngor Prydeinig.
2002:
Cynhadledd NAASWCH, Syracuse, NY. U.D.A. Dwy ddarlith.
2002:
Coleg William and Mary, Williamsburg. U.D.A. Darlith.
2002:
Comisiwn gan Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer cerddi nodi gosod y
garreg sylfaen.
2002.
Gwyl y Gelli, Darlleniadau.
2001:
Ariannin, Cyngor Prydeinig.
2001:
Bord Gron Barddoniaeth Ewrop, Riga, Latvia. Darlleniadau . Cyngor
Prydeinig.
2000:
Wexford, Iwerddon. Darlleniad. Academi.
2000: Royal Festival Hall, Llundain. Darlleniad.
Cyweithiau
cerddorol.
2023. Y Ddwy Chwaer, a gomisiynwyd ar gyfer Gwyl Eglwys
Gadeiriol Tyddewi gyda Paul Mealor,ar gyfer y prosiect Cysylltiadau
Hynafol, i'w berfformio gan Ar Log yn y Gadeirlan.
2022: Libretto ar gyfer Gorau Awen Gwirionedd, Simffoni Gorawl gan
Eilir Owen-Griffiths, a gomisiynwyd ar gyfer daucanmlwyddiant
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.2022: Libretto ar gyfer Opera
cymunedol, "Gelert" gyda Paul Mealor ar gyfer Gwyl Gerddorol
Ryngwladol Gogledd Cymru. 2022: 'This Faithful Life', gan Syr Karl Jenkins, yn cael ei gomisiynu
gan Wyl Gerddorol a Chelfyddydol Abertawe ar gyfer Cyngerdd Jiwbili ar
Hydref 29ain.
2022: 'What Time Has Taught', gwaith corawl gan Roderick Williams, yn cael ei gomisiynu ar gyfer y Jiwbili
Platinum a'i berfformio yng Nghapel y Frenhines, Llundain, ar Fai 30,
gan Roderick Williams a chôr
y Capel Brenhinol. 2022: 'A Blessing for Bendigeidfran', gan
Edward-Rhys Harry, a gomisiynwyd gan Gôr Meibion Cymry Llundain, yn
cael ei berfformio yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ar Fai 7fed.
2022: 'O Beata Trinitas', gan Grahame Davies a Paul Mealor, yn cael ei berfformio yng ngwasanaeth gorseddu
Archesgob newydd Cymru, y Parchedicaf. Andy John, yn Eglwys Gadeiriol
Bangor ar Ebrill 30ain.
2022. Per Ardua Ad Astra, emyn a gomisiynwyd gan yr Awyrlu
Brenhinol gyda’r cyfansoddwr Paul Mealor, yn cael ei berfformiad cyntaf
yn Classic FM Live yn y Neuadd Albert, Ebrill 11.
2022.
Darn corawl mawr, 'In This Place' gyda Paul Mealor, wedi ei gomisiynu
gan Goleg Marlborough ar gyfer premiere ar Fawrth 20, 2022. i ddathlu
200 mlwyddiant y Coleg.
2021.
Sioe gerdd Adre' Dros 'Dolig / Home for Christmas gydag Eilir Owen-Griffiths ar gyfer Côr
CF1 a myfyrwyr MA Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
2021
Comisiwn 'Between the Valley and the Sea' gyda Robert Arwyn ar
gyfer Côr
Meibion y Barri.
2021.
Comisiwn 'The Blessing of Belonging' gyda Paul Mealor ar gyfer
Cantorion Rhos dan gyfarwyddyd Matthias Wurz.
2021.
Comisiwn 'Between the Stormclouds and the Sea', gyda'r cyfansoddwr Jack Oades i ddathlu Cors Romney ar gyfer gwyl JAM on
the Marsh, Caint, a berfformiwyd Gorffennaf 2021.
2021.
Comisiwn gyda Paul Mealor i goffau 700 mlwyddiant Datganiad Arbroath, Yr Alban, i'w
berfformio Ebrill 2021.
2020. Cyfansoddi geiriau cân
ar gyfer prosiect heddwch rhyngwladol iPlay4Peace gyda cherddoriaeth
gan Paul Mealor.
2020.
Cyfres newydd o gerddi yn cael eu comisiynu fel ymateb i bandemig
Covid-19 i gyd-fynd gyda pherfformiad o Requiem Gabriel Faure fel rhan
o wyl Jam on the Marsh, Caint, Awst 14, 2020.
2020. Comisiwn, 'O Beata Trinitas' gyda Paul Mealor i ddathlu canmlwyddiant
sefydlu Yr Eglwys yng Nghymru, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Eglwys
Gadeiriol Tyddewi mewn gwasanaeth arbennig ym mis Gorffennaf 2021 ym
mhresenoldeb EUB Tywysog Cymru.
2020.
Comisiwn 'Song of the Oceans' gyda Paul Mealor ar gyfer 'Science
Sings' yn seremoni raddio Prifysgol Aberdeen, Ionawr 2020. Recordiwyd
yn ddiweddarach gan gerddorfa y Philharmonia yn 2021.
2019.
Perfformiad cyntaf 'Song for Samhain' gan y gyfansoddwraig Celia
Harper ar gyfer cyngerdd Music and Silence gan Chiswick Baroque yn
eglwys St Vincent de Paul, Osterley, Llundain, Tachwedd 3ydd 2019.
2018.
Perfformiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau ar gyfer 'The Souls of the Righteous'
gan Paul Mealor
yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, Tachwedd 11.
2018.
Perfformiad cyntaf 'A Glasgow Elegy' gwaith corawl newydd a
gomisiynwyd gan Brifysgol Glasgow oddi wrth Tom Harrold i nodi
canmlwyddiant y Cadoediad, yng nghapel Prifysgol Glasgow
University, Glasgow, Tachwedd 10.
2018.
Perfformiad cyntaf 'The Souls of the Righteous', Offeren a gomisiynwyd
gan Gapel Brenhinol yr Alban oddi wrth Paul Mealor i nodi
canmlwyddiant y Cadoediad, yng Nghadeirlan y Santes Fair, Caeredin,
Medi 22.
2018 Cân 'A Song for the Lord Mayor of
London', gan Paul Carroll ar gyfer Côr Plant y Gymanwlad, i nodi
cyfarfod Penaethiaid y Gymanwlad yn Llundain
2018.
Perfformiad cyntaf yn Llundain ar gyfer 'Voices of Vimy' yn eglwys St
Bride's, Fleet Street, a darllediad llawn ar BBC Radio 3
2017
Carol Nadolig gan y cyfansoddwr Jack Oades, gyda geiriau gan Grahame
Davies, yn cael ei berfformio yn Eglwys St Bride's, Fleet Street, Llundain,
ar Ragfyr 21ain.
2017
'Voices of Vimy', geiriau ar gyfer comisiwn i goffau canmlwyddiant Brwydr
Cefnen Vimy gyda'r cyfansoddwyr Tom Harrold a Stuart Beatch, ar gyfer
ProCro Canada a the JAM Festival.
2017.
'Propempticon' gan Grahame Davies yn cael ei gosod i gerddoriaeth gan
Kevin Hutchings, y canwr-gyfansoddwr o Ganada,ar gyfer ei albwm newydd
Watershed Sessions.
2017
Geiriau ar gyfer 'Jack', cân gan Paul Carroll er cof am Jack Cornwell,
a enillodd Croes Fictoria ym mrwydr Jutland ym 1916, yn cael ei berfformio
gan Gôr Ieuenctid y Gymanwlad a band y Gwarchodlu'r Coldstream,
yn Horseguards Parade, Llundain, i nodi Diwrnod y Gymanwlad.
2017
'Gorffwysgan Hedd Wyn', gan Paul Mealor, geiriau ar gyfer comisiwn gan
Eisteddfod Genedlaethol Cymru i gffau canmlwyddiant marwolaeth Hedd
Wyn.
2016
'The Shadows of War', gan Paul Mealor, yn derbyn ei premiere Cymreig
yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gyda'r Royal Liverpool Philharmonic Orchestra
dan arweiniad Owain Arwel Hughes.
2016
Geiriau ar gyfer 'The Shadows of War', cyfansoddiad newydd gan Paul
Mealor i goffau canmlwyddiant Brwydr y Somme, Jam on the Marsh Festival,
New Romney, Caint, gyda'r London Mozart Players a'r Mousai Singers.
2016
2016
'Wrth Ddwr a Thân' geiriau ar gyfer darn cerddorol gan Paul Mealor
ar gyfer agor y Pumed Cynulliad gan Ei Mawrhydi'r Frenhines, Y Senedd,
Caerdydd, ar Fehefin 7fed 2016.
2016
Geiriau ar gyfer rhan o waith cerddorol newydd 'Jubilate Deo' gan Paul
Mealor ar gyfer The Distinguished Concerts Orchestra and Distinguished
Concerts Singers International, yn Carnegie Hall, Efrog Newydd.
2016
Geiriau ar gyfer cyfansoddiad corawl newydd gan Paul Carroll ar gyfer
penblwydd Ei Mawrhydi'r Frenhines yn 90 oed ar gyfer Cerddorfa a chôr
Ieuenctid y Gymanwlad.
2015
Gosodiadau o 'Weather Forecast', 'Waiting' a 'Propempticon' gan y gyfansoddwraig
Celia Harper, yn cael eu perfformio gan y mezzo soprano Claire Bradshaw
a'r fiolinydd David Juritz yng Ngwyl Burton Bradstock yn Dorset
2014:
Geiriau ar gyfer 'Spirit of Hope' gan Paul Mealor i nodi 20 mlynedd
o ddemocratiaeth yn Ne Affrica, yn cael ei berfformiad cyntaf yn Cape
Town ym mis Ebrill gydag Only Kids Aloud a Bryn Terfel. Perfformiwyd
am y tro cyntaf yn y D.U. yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen ym mis
Gorffennaf.
2013:Geiriau
ar gyfer cyfansoddiad gan Paul Mealor i ddathlu penblwydd EUB Tywysog
Cymru yn 65 oed yng Ngwyl Gerdd Gogledd Cymru, Cadeirlan Llanelwy.
2013:
Y gerdd 'When you have to leave' wedi ei gosod i gerddoriaeth ar gyfer
albwm Kevin Hutchings, Canada, Shadows in the Light.
2012:
Geiriau ar gyfer 'The Hero's Journey', gwaith corawl gan Karl Jenkins,
a berfformiwyd gan gôr meibion 500-llais yn y Royal Festival Hall, Llundain,
ar Orffennaf 7, 2012, a chôr 1000-llais yn Neuadd Albert, Llundain,
ar Hydref 13, 2012.
2011:
Geiriau ar gyfer rhan o'r sgôr gan Karl Jenkins ar gyfer cyfres
deledu BBC Cymru The Story of Wales.
2011:
Geiriau ar gyfer cywaith gyda'r cyfansoddwr Mervyn Burtch, yr artist
Gigi Jones a'r bardd Tony Curtis.
2011:
Y gerdd 'Homecoming' wedi ei gosod i gerddoriaeth ar gyfer albwm Kevin
Hutchings, Canada, Light to Shine.
2010:
geiriau yn seiliedig ar lenyddiaeth sanctaidd nifer o grefyddau’r byd
ar gyfer gosodiad newydd o’r Gloria gan Karl Jenkins, a berfformiwyd
am y tro cyntaf yn Neuadd Albert, Llundain, Gorffennaf 11, 2010.
2009:
geiriau ar gyfer gwaith comisiwn newydd gan Karl Jenkins, i'w berfformio
am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Tachwedd 14.
2009 Geiriau
'O Beata Trinitas' ar gyfer Karl Jenkins ar gyfer darn i ddathlu statws
prifysgol Coleg y Drindod, Caerfyrddin.
2009 Dwy
gerdd wedi eu gosod i gerddoriaeth ar gyfer albwm Kevin Hutchings, Canada,
On the Bridge You Were Burning.
2008:
Comisiwn y ddarparu geiriau ar gyfer gosodiad newydd o'r Stabat Mater
gan Karl Jenkins fel rhan o ddigwyddiadau Dinas Diwylliant Ewrop, Lerpwl,
2008. Cyhoeddwyd ar yr albwm Stabat Mater (EMI Classics).
2008:
Geiriau ar gyfer nifer o ganeuon y band roc Catsgam ar yr albwm Adnodau
gyda Blodau.
2007:
Geiriau Cymraeg ar gyfer gosodiad newydd o'r Largo o Simffoni'r Byd
Newydd, Dvorak, ac ar gyfer gosodiad newydd o 'Cantilena', gan Karl
Jenkins ar yr albwm This Land of Ours (EMI Classics).
2007:
Panelydd ar ysgol undydd ar y libretto, ar gyfer Academi a Music Theatre
Wales.
2005:
Mae albwm Karl Jenkins, Requiem, (EMI Classics), sy'n cynnwys
gosodiad o'r gerdd 'Llwyd' yn cyrraedd Rhif Un yn y siartiau clasurol.
2005:
Comisiwn gan gwmnïoedd Opus a Barcud Derwen ar gyfer libretto opera
Taliesin ar gyfer Karl Jenkins.
2006:
Cyfieithiad Cymraeg o 'The Mystics' gan Carol Barrett yn cael ei berfformio
gan Y Fonesig Kiri te Kanawa ar albwm Karl Jenkins Kiri Sings Karl.
(EMI Classics).
2006:
Gosod nifer o gerddi i gerddoriaeth gan y band roc Malarki ar albwm
Malarki
Cyweithiau
celfyddydau gweledol a chyhoeddus.
2022:
Arysgrifiad ar gyfer carreg goffa Adeilad Cheng Yu Tung yng Ngholeg yr
Iesu, Rhydychen.
2022:
Geiriau ar gyfer cerflun fel rhan o adnewyddu Castell Y Gelli, Y Gelli
Gandryll, Powys.
2020:
Geiriau ar gyfer murlun i ddathlu Pererindod Seciwlar yn Abaty
Tyndyrn,Sir Fynwy, gyda'r arlunydd Ceri Davies.
2018:
Cydweithio gyda'r alunydd Kate Walters yng Ngwyl JAM on the Marsh
Caint, Kent, Gorffennaf 2018.
2017:
Darlun o Grahame Davies gan yr arlunydd Roy Guy yn cael ei ddadorchuddio
yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful
2016:
Gwaith ar farddoniaeth gyhoeddus ar gyfer gwaith celf gan y cerflunydd
Rebecca Gouldson ym Merthyr Tudful
2014 Cerdd
ar gyfer darlun gan Roy Guy i goffau trychineb pwll glo y Prince of
Wales, Sefydliad y Glowyr, Trecelyn
2012 Geiriau
ar gyfer cerfluniau ar lwybr celf yn Aberhonddu i nodi blwyddyn y Gemau
Olympaidd.
2011 Geiriau
ar gyfer cerfluniau gan Adam Williamson ar hyd llwybr seiclo ger Maesteg.
2009 Geiriau
Cymraeg ar gyfer cerflun o Ivor Novello i'w godi y tu allan i Ganolfan
Mileniwm Cymru.
2008 Cerddi
yn cael eu hymgorffori mewn beinciau cerfluniadol fel rhan o waith adnewyddu
canol tref Merthyr Tudful.
2008:
Gweithio gyda'r artist Helen Stiff ar gyfer prosiect Gair o Gelf Eisteddfod
Genedlaethol Cymru.
2006.
Cerdd gomisiwn gan y cerflunydd Nigel Talbot yn cael ei gynnwys yn ei
waith fel rhan o'i arddangosfa, Salvage.
2006:
Portread o Grahame Davies gan Lorraine Bewsey yn un o 20 o luniau yn
ei harddangosfa, Portreadau'r Beirdd.
2004:
Cerddi yn cael eu cynnwys ar gerfluniau gan Nigel Talbot mewn nifer
o leoliadau ar Daith Taf, yn Abercynon, Aberfan, a Chefn Coed y Cymmer.
Aelodaeth
sefydliadau.
2020-
Is-Lywydd Coleg Goodenough, Llundain
2019-
Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr Coleg Goodenough, Llundain
2017-
Cadeirydd Pwyllgor Academaidd Coleg Goodenough, Llundain
2014-
Is-Lywydd Eisteddfod Gydwladol Llangollen
2013-
Llywodraethwr Coleg Goodenough, Llundain
2011 -
2012 Bwrdd Llenyddiaeth Cymru
2008 -
2011 Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd, Prifysgol Caerdydd.
2007
-2012 Bwrdd Ymgynghorol Llyfrgell Genedlaethol Cymru
2006 -
2009 Bwrdd Displaced People in Action.
2006 -
Society of Authors
2005 -
Bwrdd yr Academi
2004 -
Cymrawd Coleg Goodenough, Llundain.
2003 -
Pwyllgor rheoli Cyfrwng, cyfnodolyn y cyfryngau yng Nghymru
2002
- Darlithydd Gysylltiol, Ysgrifennu Creadigol, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol
Caerdydd.
2002
- BAFTA Cymru
2002-2006
Pwyllgor Litwrgaidd Ymgynghorol Sefydlog yr Eglwys yng Nghymru
2001-2006
Arholwr Allanol, Media Cwrs Cyfathrebu a'r Cyfryngau, MA a BA, Prufysgol
Cymru, Bangor
1997:
Aelodaeth lawn o'r Academi.
1997-2002
Golygydd Cymraeg cylchgrawn Poetry Wales.
Beirniad.
2015:
Gwyl Undercurrents, Cwm Aber
2014:
Gwyl Undercurrents, Cwm Aber
2014:
Gwobr Farddoniaeth Ryngwladol Dylan Thomas.
2011:
Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
2011:
Y Gadair (dysgwyr), Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
2008:
The Perweez & Bashir Moriani Poetry Award, Llundain
2007:
John Tripp Award for Spoken Poetry, Caerdydd.
2007:
Cystadleuaeth Farddoniaeth Gwyl Wrecsam, Cymraeg a Saesneg.
2006:
Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
2005:
Panel beirniaid Bafta Cymru: Rhaglen Gylchgrawn/Rhaglen Nodwedd
2005:
Cystadleuaeth Farddoniaeth Gwyl Wrecsam, Cymraeg a Saesneg.
2004:
Cadeirydd panel Cymraeg cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
2003:
John Tripp Award for Spoken Poetry
2002:
Eisteddfod Rhyng-Golegol, cystadlaethau vers libre.
|
 |
|