Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

05/07/2017

Cyhoeddi blodeugerdd The Old Red Tongue

Ar Orffennaf 5ed, cymerodd Grahame Davies ran mewn darlleniad yng Nghaerdydd i ddathlu cyhoeddi The Old Red Tongue: An anthology of Welsh Literature.

Grahame Davies with the performers

Llyfr o 1000 o dudalennau yw hwn, wedi ei olygu gan Meic Stephens a Gwyn Griffiths, ac yn cynnwys eitemau gan bron i 200 o lenorion o bob cyfnod o'r 6ed ganrif hyd y presennol, yn y Gymraeg gyda chyfieithiadau Saesneg.

Cynrychiolir Grahame Davies gan y gerdd 'Coch' sy'n sylwi yn grafog ar y berthynas rhwng sosialaeth y cyfnod rhwng y rhyfeloedd a chenedlaetholdeb Cymreig gyfoes. Y mae'n un o ryw 100 o awduron o'r 20fed ganrif a gynhwysir.

Mae'r llyfr, a gyhoeddwyd gan Francis Boutle o Lundain, yn cynrychioli'r cyhoeddiad diweddaraf mewn cyfres wedi ei neilltuo i ieithoedd lleiafrifol Ewrop. Gellir ei brynu yma.

 

 

Home


News


Books/Reviews


Poems


Contact


Website created by
Mabmedia