Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

 

17/10/2020

Comisiwn i ddathlu canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru

Cymerodd Grahame Davies ran mewn Rhith Wyl ar gyfer Gwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy.  

Nid oedd modd cynnal digwyddiadau arferol oherwydd y pandemig, felly, fel rhan o'r Rhith Wyl a drefnwyd yn lle, fe gymerodd Grahame Davies ran gyda'r cyfansoddwr Paul Mealor ac Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron, mewn podlediad yn trafod creadigrwydd a'r darn corawl newydd, 'O Beata Trinitas', y comisiynwyd Mealor a Davies i'w chyfansoddi i ddathlu canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru.  Gellir gwylio'r podlediad yma

Dyma'r geiriau:

O Beata Trinitas:

O beata Trinitas:
the earth, the rainfall and the grass.
bless this land through which we pass,
O beata Trinitas.

Drindod Sanctaidd ddiwahân:
gair a llais a cherdd ein cân,
dyro’th ras drwy’n henaith lân,
Drindod Sanctaidd ddiwahân.

Holy blessed Trinity:
the well, the river and the sea,
guide us to the mystery,
holy blessed Trinity.

Yn ogystal, fe gymerodd Grahame Davies ran mewn darlleniad barddoniaeth gydag Aled Lewis Evans, yntau hefyd yn fardd o Wrecsam, wrth iddynt ddewis hoff ddarnau o gerddoriaeth. Gellir gweld y darlleniad yma.

Mealor, Davies & Bishop Gregory Cameron

Y darlleniad yng Nghadeirlan Llanelwy

Home


News


Books/Reviews


Poems


Contact


Website created by
Mabmedia