Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

23/06/2014

Geiriau ar gyfer dathliad De Affrica.

Grahame Davies a ddarparodd y geiriau ar gyfer symudiad cyntaf gwaith comisiwn newydd gan y cyfansoddwr Yr Athro Paul Mealor i ddathlu 20 mlynedd o ddemocratiaeth yn Ne Affrica.

Perfformiodd Corws Only Kids Aloud yn Cape Town mewn dathliad cerddorol fel rhan o raglen o ddigwyddiadau diwylliannol yn y wlad eleni dan yr enw: 20 Years of Freedom – South Africa 1994 – 2014. Bu'r corws wrthi'n perfformio comisiwn newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Mealor, sydd yn cynnwys y gerdd ‘Invictus’, ffefryn a ysbrydolodd Nelson Mandela.

Mewn ymweliad hanesyddol â Cape Town ym mis Ebrill, perfformiodd y corws ddau gyngerdd yn yr Artscape Theatre Centre fel rhan o dymor celfyddydol Africa-UK er mwyn nodi 20 mlynedd ers diwedd apartheid a sefydlu democratiaeth yn Ne Affrica.

Ymunodd Bryn Terfel â'r Only Kids Aloud Chorus yn ei berfformiad cyntaf yn Ne Affrica.

Y mae symudiad cyntaf y darn, sef ‘Spirit of Hope’, yn gosod cerdd gan Grahame Davies a ysgrifenwyd yn Gymraeg a Saesneg. Gosodiad o'r gerdd ‘My Song’ gan y cyfriniwr o India, Rabindranath Tagore, yw'r ail symudiad, a'r symudiad olaf yw'r gosodiad o ‘Invictus’, gan y bardd Saesneg , William Ernest Henry. Y mae hefyd yn cynnwys dwy gân Affricanaidd: ‘Nkosi Sikelel' iAfrika’ (Duw Gadwo Affrica), anthem answyddogol y wlad cyn etholiadau 1994, a bellach rhan o anthem swyddogol y wlad ddemocrataidd, a ‘Siyahamb' ekukhanyen' kwenkhos' (Cerddwn yng Ngoleuni Duw).

Caiff y darn ei berfformio am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn Eisteddfod Ryngwladol Llangololen ar Orffennaf 11eg.

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia