Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

13/12/2002

Taith ddarlithio yn yr Unol Daleithiau

Rwyf wedi derbyn gwahoddiad i ddarllen yn y College of William and Mary yn Williamsburg, Virginia, yn yr Unol Daleithiau ar gyfer penwythnos Gwyl Ddewi. Byddaf yn teithio allan ar y 1af ac yn ôl ar y 6ed. Mae'n debyg y bydd darlleniad hefyd ar yr 3ydd yn Fredricksburg, sydd heb fod yn bell i ffwrdd. Mae cysylltiad Cymreig cryf gan y coleg yn Williamsburg achos dyna lle bu Goronwy Owen ar y staff wedi iddo ymfudo o Gymru yn y ddeunawfed ganrif. fe dreuliodd 15 mlynedd olaf ei fywyd yn Virginia, ac mae ei gartref yn dal i'w weld yn y cefn gwlad tu allan i'r dref. Mae nifer o lenorion Cymraeg wedi ymweld â'r coleg, achos mae yna gymdeithas Gymreig fywiog yno sydd wedi cadw'r cysylltiad â Chymru yn fyw.

Ebrill 6 Aeth y daith yn dda iawn, 'dwi'n falch o ddweud. Roedd yn fraint i ddarllen yn y coleg hyfryd hwnnw, ac i gwrdd ag aelodau o'r gymdeithas Gymreig yno, a'u ffrindiau hefyd. 'Dwi'n arbennig o ddiolchgar i'r ddau Mr Bob Jeffrey am eu lletygarwch a'u caredigrwydd ac i Bob Roser am fy nhywys o amgylch meysydd brwydro Virginia. Mae erthygl ar y daith i'w chael yma ar Cymru'r Byd: yma

 

 

 



Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia