Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

08/07/2004

Gwyl farddoniaeth yn ninas Berlin

Cefais fy ngwahodd gan y Literaturwerkstatt i gymryd rhan mewn gwyl farddoniaeth fawr ym Merlin, yr Almaen, ym mis Gorffennaf 2004, sef y Poesiefestival. Gweithiais gyda'r bardd o'r Almaen, Volker Braun, yn cyfieithu 10 o fy ngherddi i'r Almaeneg. Wedyn mi gyfieithiais 10 o gerddi Volker i'r Gymraeg gyda chymorth y cyfieithydd Cymraeg-Almaeneg Gero Will. Gwaith caled, ond braint fawr imi. Cafodd darlleniadau eu cynnal yn gysylltiedig â'r gwaith hefyd. Roedd yn bleser i gael cwmni Meirion MacIntyre Huws ar yr ymweliad hefyd. Roedd y ddau ohonom yn rhan o adran Geltaidd yn yr Wyl.

Volker Braun and Grahame Davies

Berlin yw un o fy hoff ddinasoedd, os nad fy hoff ddinas. Euthum yna'n gyntaf yn 1990, yn fuan wedi i'r wal agor, ar fy ffordd gyda chonfoi nwyddau i wlad Pwyl, a chefais fy nghyfareddu gan gyffro'r lle. Euthum yn ôl hefyd yng nghanol yr wythdegau ac yn 1999, gan weld newidiadau mawr bob tro. Rwy'n ddiolchgar i Sabine Heinz am ei charedigrwydd a'i heffeithiolrwydd yn gwneud y trefniadau ar gyfer fy ymweliad, i Gero am ei waith amhrisiadwy gyda'r cyfieithiadau, ac i staff y LiteraturWERKstatt am eu croeso. Mae'r cyfieithiadau Almaeneg o'r cerddi Cymraeg i'w gweld ar wefan Lyrikline.

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia