Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 15/06/2006 Cyhoeddi casgliad am ffoaduriaid Mae'r llyfr Gwyl y Blaidd / Festival of the Wolf yn gasgliad o waith llenyddol gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Mae wedi ei olygu ar y cyd gan Grahame Davies, Tom Cheesman a Sylvie Hoffman, mae wedi ei gyhoeddi ar y cyd gan gwmnïau Hafan a Parthian , ac fe gafodd ei lansio yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe ar Fehefin 13. Mae'n cynnwys gwaith gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n hanu o dros 20 o wledydd gwahanol ac sydd bellach yn byw yn ninasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Mae’n cynnwys hefyd ddetholiadau o lenyddiaeth berthnasol o Gymru dros gyfnod o fil o flynyddoedd, ac eitemau gan ffoaduriaid a ddaeth i Gymru i osgoi digwyddiadau megis Newyn Mawr Iwerddon a Holocost y Natsïaid. Daw teitl y llyfr o gerdd gan y newyddiadurwr o Algeria, Adel Guémar, sydd hefyd yn fardd arobryn ac sydd bellach yn byw yn Abertawe. Mae ei gerdd yn sôn am gyflafan yn 1988 pan gafodd 500 o bobl gyffredin eu lladd gan fyddin Algeria. Mae’r llyfr wedi ei fwriadu i fod o ddefnydd i athrawon a myfyrwyr ac ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn materion megis amrywiaeth diwylliannol a mewnfudo yn y cyd-destun Cymreig, boed hynny yn y gorffennol neu yn y presennol. |
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |