Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

08/02/2004

Golygu prif gylchgrawn llenyddol Bwlgaria

Ydych chi'n deall y tudalen y tu ôl i'r linc yma? Na finnau chwaith! Ond mi wn i mai dyma wefan y casgliad o lenyddiaeth Cymru mewn cyfieithiad Bwlgareg a wneuthum ei olygu yn gynnar yn 2002. Fe darddodd y cyfan o sgwrs gyda'r bardd a'r golygydd o Fwlgaria, Gueorgui Konstantinov, yn y Ford Gron Ewropeaidd ar Farddoniaeth yn Riga yn Latfia ym mis Medi 2001. Roedd Gueorgui yn ddigon caredig ag i 'ngwahodd i olygu rhifyn arbennig o'i gylchgrawn llenyddol, Plamak ("Fflam) oedd wedi ei neilltuo i lenyddiaeth Cymru. Felly dyna a wneuthum.

Mae 'na 44 o awduron, hanner yn Gymraeg a hanner yn Saesneg-eu-hiaith, a hanner yn feirdd a hanner yn llenorion rhyddiaith. Ac mae'r cyfan wedi ei ddarluniau gyda lluniau hyfryd gan yr artist Cymraeg Anthony Evans. Euthum allan i Sofia - diolch eto, Gyngor Prydeinig! - ar gyfer y lansiad ym Mhalas Diwylliant y wlad, ac roeddwn wrth fy modd gyda'r brwdfrydedd gafodd ei ddangos tuag at lenyddiaeth Cymru yn y wlad hon ym mynyddoedd y Balcan.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Gueorgui, i'r cyfieithwyr, ac i Liliana Runevska am eu gwaith caled a'u croeso caredig, i'r awduron Cymreig am adael imi gynnwys eu gwaith, ac i Sioned Puw Rowlands a Llenyddiaeth Cymru Dramor am drefnu'r cyfieithiadau. Mae fy ffrindiau ym Mwlgaria yn dweud wrtha' i mai dyma oedd y casgliad cyntaf o lenyddiaeth Cymru i'w gyhoeddi yn un o wledydd y Balcan, sy'n beth braf.


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia