Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

30/10/2011

Gwyl Syniadau Caergrawnt

Ar Hydref 19, 2011, cymerodd Grahame Davies ran yng Ngwyl Syniadau Caergrawnt fel aelod o'r panel ar gyfer y sesiwn 'Making the Past Present' Edrychodd y drafodaeth ar berthnasedd clasuron y byd a'r traddodiadau epic a llafar i ysgolion, amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol.

Ymunodd â phanel yn cynnwys:
Dr Vayu Naidu, storiwraig, academydd a sylfaenydd y Vayu Naidu Company, y mae ei weithgareddau yn cynnwys chwedleua, perfformio, addysgu a gwneud gwaith cymunedol yn y tradddodiad llafar Indiaidd.
Claire Wheeler o'r World Oral Literature Project, menter fyd-eangi ddogfennu a hwyluso mynediad i lenyddiaethau llafar sydd dan fygythiad - gan gynnwys testunau defodol, siantiau iachau, cerddi epig, arddulliau cerddorol, straeon gwerin, straeon creu, caneuon, mythau, chwedlau, gemau geiriau, hanesion bywyd neu naratifau hanesyddol - cyn iddynt ddiflannu heb eu cofnodi.
Gillian Mead, athrawes, llyfrgellydd ac ymgyrchydd ar gyfer ail-gyflwyno'r clasuron i ysgolion. Y mae ei gwaith yn cynnwys dysgu Lladin drwy gyfrwng y we.
Roedd Dr Mick Gowar yn cynrychioli chwedlau Llychlyn. Yn awdur plant, yn fardd, ac yn storiwr, a gyhoeddodd dros 120 o lyfrau i blant a phobl ifainc, gan gynnwys fersiynau newydd o storiau epig - gan gynnwys, yn ddiweddar, fersiwn newydd o Beowulf i blant. ar hyn o bryd y mae'n gweithio ar fersiynau newydd o ramantau'r canoloesodd i blant, megis Gawain and The Green Knight a The Geste of Robin Hood.
Cyflwynwyd y sesiwn gan Anglia Ruskin University.


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia