Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

 

19/11/2018

Caeredin ac Efrog Newydd yn llwyfannu Offeren newydd 'The Souls of the Righteous'

Ar Fedi 22ain yn Eglwys Gadeiriol y Santes Fair yng Nghaeredin, fe gynhalwyd perfformiad cyntaf darn corawl newydd gan Paul Mealor gyda geiriau gan Grahame Davies. 

Roedd cynulleidfa o 650 yn bresennol ar gyfer y perfformiad, a bu Duges Cernyw yn bresennol ar gyfer yr achlysur, fel Canghellor Prifysgol Caeredin, lle y mae Paul Mealor yn Athro Cyfansoddi.

Offeren yw 'The Souls of the Righteous' a gomisiynwyd gan Gapel Brenhinol yr Alban i goffau canmlwyddiant y Cadoediad. 

Digwyddodd y perfformiad cyntaf yn America yn Carnegie Hall yn Efrog Newydd ar Sul y Cofio ei hun, sef Tachwedd 11eg, gyda chôr o 220 o bobl a cherddorfa lawn. 

Cafodd recordiad o'r perfformiad yng Nghaeredin yn ei ddarlledu ar Classic FM ar noson Sul y Cofio, Tachwedd 11, am 7yh.

Paul Mealor, Grahame Davies, and Leonard Bernstein
Gyda Paul Mealor yn y Maestro Suite yn Carnegie Hall, gyda llun o Leonard Bernstein.

Poster for Carnegie Hall concert

Y poster tu allan i'r Neuadd.

Y neuadd yn llenwi

Y Neuadd yn llenwi

  Y neuadd yn llawn

Ac yn llawn.



Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia