Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

22/03/2007

Cyhoeddi nofel Saesneg gyntaf

Cafodd nofel Grahame Davies's Everything Must Change a gyhoeddir gan Seren Books o Ben-y-Bont ar Ogwr, ei lansio ar Fai 18 yng nghanolfan celfyddydau The Gate yn Keppoch Street, Y Rhath, Caerdydd.

Disgrifir Everything Must Change fel nofel feddylgar a theimladwy am ddyfodol daliadau radical tanbaid yn y byd modern.

Mae'r llyfr yn cyfosod stori'r athronydd a'r ymgyrchydd Ffrengig Simone Weil, gyda hanes yr ymgyrchydd dychmygol, Meinwen Jones, sydd ar goll yn y Gymru ol-ddatganoledig.

Wrth i ffasgaeth fygwth Ewrop rhwng y rhyfeloedd byd, y mae Simone, Iddewes ifanc ddelfrydgar ac athrylithgar, yn cwhilio am alwedigaeth a fydd yn bodloni ei hangerdd dros gyfiawnder a'i dyhead peryglus am hunan-aberth.

Mewn oes arall, mae Meinwen wedi aberthu cariad, gyrfa a dyfodol er mwyn achub hen ddiwylliant rhag difodiant. Mewn stiwdios teledu, mewn ymgyrchoedd gwleidyddol ac mewn carchar, mae hi'n cymryd Simone fel ei hysbrydoliaeth yn ei brwydr unig yn erbyn globaleiddio. Ond mae'r hen wirioneddau yn dechrau gwegian.

Pan fo ffrindiau'n troi'n elynion, a gelynion yn cynnig cyfeillgarwch, mae'n rhaid i'r ddwy ferch gwestiynu eu daliadau cadarn, ac mae'n rhaid iddynt wynebu dewisiadau a all arwain at fywyd neu farwolaeth.

‘Yn athronyddol sylweddol… mae'n fy atgoffa o drioleg Jean-Paul Sartre o'r 1940au, Les Chemins de la Liberté [Llwybrau Rhyddid]. Yma, fe welir dewis y Gymru ol-ddatganoledig. Dyma'r nofel ol-genedlaetholaidd gyntaf. - Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

‘… compelling glimpse of a compelling personality [Simone Weil]. The book is pertinent, provocative and thoroughly entertaining. Anybody with an interest in the way culture and identity inform the lives we make could read the book - and find in it rich nourishment. Owen Martell

Cyhoeddwyd Everything Must Change yn Gymraeg yn gyntaf fel Rhaid i Bopeth Newid (2004, Gomer), ac fe gafodd ei rhoi ar restr hir gwobr Llyfr y Flwyddyn 2005. Mae wedi cael ei chyfieithu a'i ehangu gan yr awdur.


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia