Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 20/07/2012 Pum cant o leisiau mewn perfformiad yn Llundain Cafodd côr meibion gyda 500 o leisiau ac yn cynrychioli pum cyfandir ei ffurfio yn arbennig gan Gôr Meibion Cymry Llundain ar gyfer cyngerdd unigryw yn y Royal Festival Hall yn Llundain ar Orffennaf 7fed 2012. Y cyngerdd hwn oedd perfformiad cyntaf 'The Hero's Journey', sef gwaith a gomisiynwyd yn arbennig gan y cyfansoddwr Karl Jenkins gyda geiriau gan Grahame Davies a chyda chyfeiliant gan bencampwyr bandiau pres y byd y Cory Band, dan gyfarwyddyd Paul Bateman. Roedd y digwyddiad yn rhan o BrynFest, sef dathliad o dreftadaeth Gymreig a drefnwyd gan Bryn Terfel yn Llundain. Cafodd uchafbwyntiau o'r cyngerdd eu darlledu ar S4C. |
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |