Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

08/08/2011

Astudiaeth gynhwysfawr o hanes Islam a Chymru

Y mae The Dragon and the Crescent, (Seren, £12.99) astudiaeth newydd Grahame Davies o berthynas Cymru ac Islam ar draws naw can mlynedd, yn cael sylw mewn nifer o ddigwyddiadau ar draws Cymru.

Ar nos Fawrth, Mai 10fed, lansiwyd y llyfr yn swyddogol yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Ar ddydd Sadwrn, Mehefin 4, yng Ngwyl y Gelli , bu Grahame Davies yn trafod y llyfr gyda Merryl Wyn Davies, Cyfarwyddwr y Muslim Institute. Ceir manylion y digwyddiad yma.

Ar ddydd Mercher, Mehefin 8 yn Y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, fe roddodd Grahame Davies ddarlith am The Dragon and the Crescent fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau i nodi pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl y Brenin Iago. Gellir gwylio rhan gynta'r ddarlith ar YouTube yma.

Ar ddydd Mercher Awst 3, 12pm-1pm, traddododd Grahame Davies ddarlith flynyddol Cymdeithas Carnhuanawc yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam er cof am yr awdur 'Carnhuanawc', Thomas Price (1787-1840). Pwnc y ddarlith oedd Cymru ac Islam.

Ar Hydref 27, fe roddodd Grahame Davies seminar ar Gymru ac Islam yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yn Aberystwyth.

Mwy am The Dragon and the Crescent

Ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, mae digwyddiadau gwleidyddol diweddar wedi gwneud y berthynas rhwng y Gorllewin ac Islam yn destun diddordeb a thyndra dwys.

Ond er mwyn deall ofnau'r presennol, rhaid yw olrhain eu gwreiddiau hanesyddol. Dyna y mae The Dragon and the Crescent yn ei wneud ar gyfer un genedl Ewropeaidd fach, gan ddatgelu, am y tro cyntaf, stori lawn a rhyfeddol perthynas Cymru ag Islam.

Y mae'r astudiaeth helaeth hon wedi casglu 200 o ddarnau o lenyddiaeth Gymreig dros gyfnod o naw can mlynedd. Y mae'n cynnwys deunyddiau llenyddol Croesgadwyr Cymreig, milwyr a morwyr, cenhadon a masnachwyr, arloeswyr ac anrheithwyr, pererinion duwiol ac oferwyr hedonistaidd.

Mae'n cynnwys deunydd cynnar megis taith Gerallt Gymro yn hel milwyr at y Croesdgadau yn 1188, a deunydd cyfredol megis sylwebaeth ar helynt cartwnau Muhammad. Y mae The Dragon and the Crescent yn gasgliad difyr a phryfoclyd sy'n cynnwys dyddiaduron, dramâu, nofelau, llyfrau taith a barddoniaeth. Ceir deunydd o ddwy brif iaith Cymru, gan awduron megis Ann Griffiths, T Gwynn Jones, Cynan, T.E. Lawrence, David Lloyd George, Gwenallt, Richard Llewellyn, Anthony Burgess, Alun Lewis, Alun Richards, Nigel Jenkins, William Owen Roberts, Peter Finch, Robert Minhinnick, Gwyneth Lewis a Horatio Clare.

Y mae dadansoddiad craff a thrylwyr Grahame Davies yn agor maes astudiaeth cwbl newydd, gan ddatgelu dylanwad enfawr Mwslemiaid ar Gymru a dylanwad llawn mor bwysfawr Cymru ar wledydd Islam. Mae'n archwilio ymatebion cyfoes i dwf Islam yng Nghymru, gan fwrw goleuni newydd ar berthynas Cymru gyda'i lleiafrifoedd, a chan herio mythau am oddefgarwch Cymreig. Dyma lyfr anhepgor i unrhywun sydd â diddordeb mewn perthynas rhyng-ddiwylliannol ac aml-ffydd.

Dyma arolwg trawiadol a dadlennol o hanes Cymreig, Prydeinig ac Islamaidd, a llyfr o bwys mawr ar gyfer Prydain heddiw. Cyhoeddir The Dragon and the Crescent yn Ebrill 2011. Y pris yw £12.99, a gellir ei brynu yma.

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia