Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

01/12/2004

Dal Yma Nawr

Os cewch chi gyfle i weld y ffilm Dal:Yma/Nawr gan Marc Evans (cyfarwyddwr) ac Ynyr Williams (cynhyrchydd) mae'n werth ei wneud. Ynddi, fe geir rhai o sêr amlycaf Cymru - megis Siân Phillips, Ioan Gruffudd, Matthew Rhys a John Cale - yn darllen ac yn perfformio cerddi Cymraeg. Mae'n ffordd wych o gyflwyno cyfoeth y traddodiad barddol nid yn unig i bobl y tu allan i Gymru ond i'r Cymry eu hunain. Cyfoes, mentrus, ffres; mae'n brofiad i'w gofio. Ceir rhai manylion yma. Mae gen i ran fach ynddi, sef darn o fy narlleniad yn y Stomp yn Nhyddewi. 'Chydig eiliadau, ond mae'n golygu fy mod ar y credits efo rhai o sêr mawr Cymru, felly 'dwi ddim yn cwyno! Bues yn westai mewn trafodaeth gyhoeddus ar y ffilm yn y Drwm yn Aberystwyth ar Dachwedd 30ain 2004, gyda Dic Jones, sydd â chanddo ran llawer mwy yn y ffilm. Soniais mai dim ond deg eiliad oedd gennyf ar y sgrin i'w gymharu â'r darn llawer hirach a gafodd o. "Ie," meddai Dic mewn fflach, "Digalon yw deg eiliad!"

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia