Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

01/07/2009

Cyfansoddiad gyda Karl Jenkins ar gyfer Coleg y Drindod, Caerfyrddin

Ar Fehefin 28, cafodd gwaith newydd gan y cyfansoddwr byd-enwog Karl Jenkins ei berfformio i ddathlu'r ffaith bod Coleg y Drindod, Caerfyrddin, wedi ennill statws Prifysgol.

Grahame Davies ddarparodd y geiriau ar gyfer y darn corawl a osodwyd i gerddoriaeth gan yr unig gyfansoddwr byw yn y Classic FM Hall of Fame.

Cafodd ‘O Beata Trinitas’ ei berfformio am y tro cyntaf fel uchafbwynt Gwyl y Drindod ar ddydd Sul, Mehefin 28.

Lladin, Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd y gerdd, sydd yn cynnwys addasiadau o ddeunydd o Lyfr Du Caerfyrddin, ac o weddïau coleg Lladin, yn ogystal â cherddi newydd.

Perfformwyd y gwaith gan Gôr y Gyngerdd sydd yn cynnwys 150 o aelodau o Gôr CF1, Côr Godre’r Garth a Chôr y Drindod. Cafwyd hefyd berfformiad o Carmina Burana gan Carl Orff, a fydd yn cynnwys y soprano Fflur Wyn, y tenor Alun Wyn Jenkins a’r baswr Owen Webb.

Ceir mwy o wybodaeth a lluniau o'r noson yma.

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia