Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

27/07/2014

Beirniad ar Wobr Farddoniaeth Ryngwladol Dylan Thomas.

Grahame Davies a Menna Elfyn oedd y beirniaid ar Wobr Ryngwladol Dylan Thomas a ddyfarnwyd dan nawdd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddathlu canmlwyddiant y bardd.

'Harmony' oedd y testun gosod, ac fe enillwyd y wobr o £2,000 gan Martin Willitts Jr, o Efrog Newydd am ei gyfansoddiad "Daffodils".

Crynwr a garddwr organig yw'r bardd, sydd wedi ymddeol o'i waith fel llyfrgellydd yn Syracuse. Cyhoeddwyd ei waith mewn nifer o fannau, gan gynnwys gwasg Cinnamon yng Nghymru.

Nid oedd Grahame Davies yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni wobrwyo oherwydd amgylchiadau teuluol, a thraddodwyd y feirniadaeth ar ran y ddau feirniad gan Menna Elfyn.

Ceir erthygl am y digwyddiad yma.

 

 

 

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia