Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

31/10/2008

Darlleniadau yn yr Eidal

O Hydref 26-28, bu Grahame Davies yn ymweld â thref Guglionesi ger Termoli yn ardal Molise yn yr Eidal. Ar ddydd Llun 27, cymerodd ran mewn darlleniad yng nghanolfan ddinesig y gymuned, lle darllenwyd ei waith yn y Gymraeg, yn Saesneg, ac yn y dafodiaith leol, Guglionesano. Bu Mark Woods a Mauro Conti yn allweddol mewn trefnu'r digwyddiadau. Drannoeth, ymwelodd â'r ysgol uwchradd alwedigaethol leol, lle bu'n cwrdd â'r myfyrwyr ac yn trafod llenyddiaeth. Bu dipyn o sylw i'r ymweliad yn y wasg, a gellir darllen erthyglau yn Eidaleg am y digwyddiadau yma, yma, yma, ac yma.

Dengys y llun isod y darlleniad yn y ganolfan ddinesig, lle bu mwy nag 80 o bobl yn bresennol.

Darlleniad yn Guglionesi

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia