Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

28/05/2011

Taith cerfluniau yn y Cymoedd

Ym mis Mawrth 2011 fe weithiodd disgyblion o Ysgol Gyfun Maesteg a YGG Llangynwyd gyda'r beirdd Grahame Davies a Mike Church i greu cyfres o gerddi a ysbrydolwyd gan eu hanes a'u hamgylchedd lleol.

Defnyddir detholiad o'r gwaith Cymraeg a Saesneg mewn gweithiau celf a gaiff eu creu gan y cerflunydd Adam Williamson. Bydd y gweithiau celf cyhoeddus, ar ffurf cerrig a meinciau gydag arysgrifiadau, yn cael eu gosod ar hyd y ffordd beiciau newydd a fydd yn cysylltu Penybont ar Ogwr gyda Chwm Afan yn Nedd Port Talbot.

Cefnogir y prosiect gan Sustrans ac mae'n ffurfio rhan o gynllun strategol i ddatblygu'r rhwydwaith seiclo yn yr ardal hon o Benybont. Yn ogystal â'r llwybr seiclo newydd, bydd trac BMX yn cael ei greu yng Nghaerau.

Bydd mainc gyda gwaith celf yn cael ei gosod ar y llwybr seiclo ger Ysgol Gyfun Maesteg.

Cafodd y gwaith Cymraeg ei greu gan YGG Llangynwyd yn gweithio gyda Grahame Davies

Ceir manylion llawn y brosiect, ynghyd â lluniau, yma.

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia