Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

27/02/2004

Comisiwn Brenhinol ar gyfer Eisteddfod Llangollen

Cafodd Grahame Davies ei gomisiynu gan Dywysog Cymru i ysgrifennu cerdd i ddathlu Eisteddfod Gydwladol Llangollen. Mae'r Tywysog yn llywydd yr wyl ac roedd yn dymuno rhoi cerdd fel rhodd. Felly, drwy'r Academi.fe gafodd Grahame Davies y comisiwn, a darllenodd y gerdd mewn cyngerdd mawr yn y Pafiliwn Rhyngwladol yn Llangollen ar Orffennaf 7fed. Roedd Grahame Davies yn arbennig o falch o gael y cyfle i ysgrifennu'r gerdd hon gan mai dyn o Goedpoeth, ei bentre genedigol, oedd Harold Tudor, sef sylfaenydd yr wyl. Defnyddiodd rywfaint o'r arian o'r comisiwn i dalu am gofeb o lechen Gymreig i goffau Harold Tudor yng Nghoedpoeth. Ceir stori am y comisiwn yma.

Aeth y noson yn dda iawn. Roedd cynulleidfa o dros 3,000, ac yn eu plith Peter Tudor, mab Harold Tudor. Drwy gyd-ddigwyddiad roedd Mr Tudor, a fu'n byw yn Swydd Stafford ers degawdau, ac na fu ar gyfyl yr Eisteddfod am 30 mlynedd, wedi cysylltu ag Oswald Davies thad y bardd ryw bythefnos cyn y noson pan oedd i ddarllen y gerdd. Roedd wedi ymweld â'r pentref am y tro cyntaf ers amser maith y diwrnod hwnnw, ac roedd wedi gweld poster a osodwyd gan Oswald Davies yn chwilio am aelodau ar gyfer cymdeithas hanes lleol newydd. Cysylltodd ag Oswald Davies gyda'r bwriad o ymaelodi. Yr hyn sy'n rhyfeddol yw'r rheswm pam yr aethai i'r pentref y diwrnod hwnnw - bu'n edrych drwy bapurau ei dad, ac wedi dod ar draws ei dystysgrif geni, ac roedd hynny wedi ei sbarduno i ymweld â'r pentref i weld a oedd modd gosod coflech iddo ar y ty lle cafodd ei eni! Pan gysylltodd ag Oswald Davies, felly, fe'i rhoddwyd mewn cysylltiad â Grahame Davies, ac roedd modd iddo ddweud wrtho fod y plac eisoes wedi cael ei archebu y diwrnod cyn hynny. Cyd-ddigwyddiad anhygoel. Dywedod Grahame Davies wrth Ymddiriedolaeth y Tywysog am hyn, a bore trannoeth fe anfonwyd tocynnau i Mr Tudor a'i wraig ddod i'r cyngerdd ac i gwrdd â'r Tywysog. Ceir stori am y peth: yma. Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn gwneud lot o waith da dros bobl ifanc yng Nghymru. Dyma eu gwefan. Noson i godi arian at yr Ymddiriedolaeth oedd yr achlysur pan ddarllenwyd y gerdd.

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia