Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

24/07/2014

Perfformiad cyntaf o waith De Affrica.

Ar Orffennaf 11eg, gerbron cynulleidfa o filoedd yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen, perfformiodd corws Only Kids Aloud y gwaith comisiwn newydd gan y cyfansoddwr Yr Athro Paul Mealor i ddathlu 20 mlynedd o ddemocratiaeth yn Ne Affrica. Ceir erthygl am y digwyddiad yma.

Grahame Davies a ddarparodd y geiriau ar gyfer y cyntaf o'r tri symudiad. Gosodiadau o eiriau gan y bardd o'r India, Rabindranath Tagore, (1861 – 1941) a'r bardd Saesneg William Ernest Henley (1849–1903). oedd y ddau symudiad arall. .

Perfformiwyd y darn fel rhan o raglen o eitemau gan artistiaid o dde Affrica, gan gynnwys Opera Cape Town.

Hwn oedd perfformiad cyntaf y gwaith ym Mhrydain. Y perfformiad cyntaf oll oedd yn Cape Town ym mis Ebrill, pan berfformiodd y corws ddau gyngerdd yn yr Artscape Theatre Centre fel rhan o dymor celfyddydol Africa-UK er mwyn nodi 20 mlynedd ers diwedd apartheid a sefydlu democratiaeth yn Ne Affrica.

Ymunodd Bryn Terfel â'r Only Kids Aloud Chorus yn ei berfformiad cyntaf yn Ne Affrica.

 

 

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia