Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

12/04/2014

Cerdd a darlun yn Neuadd y Glowyr.

Ar Fedi 11eg, 2014, cynhalwyd seremoni yn y 'Memo' (Y Neuadd Goffa) yn Nhrecelyn yng Nghymoedd gwent i ddadorchuddio darlun a cherdd er cof am y rhai fu farw mewn trychineb pwll glo yn y 19eg Ganrif.

Fe laddwyd 268 o ddynion a bechgyn mewn tanchwayng nglofa'r Prince of Wales Colliery ym mhentre cyfagos Abercarn, ar Fedi 11eg 1878.

Y mae'r artist lleol Roy Guy wedi creu darlun mawr mewn arddull mosaic er mwyn coffau'r drychineb. Y mae wedi ei osod uwch y prif risiau yn y Neuadd Goffa, sydd wedi cael ei hadnewyddu yn ddiweddar.

Gofynwyd i Grahame Davies ddarparu rhai geiriau i fynd gyda'r llun, ac fe gyfansoddodd y darn canlynol, a ddadorchuddiwyd ynghyd â'r darlun yn y seremoni:.

We do not ask you to remember us:
you have your lives to live as we had ours,
and ours we spent on life, not memory.
We only ask you this - that you live well,
here, in the places that our labour built,
here, beneath the sky we seldom saw,
here, on the green earth whose black vein we mined,
and feel the freedom that we could not find.

Nid oedd Grahame Davies yn medru bod yn bresennol yn y seremoni oherwydd ymrwymiadau gwaith yn Llundain ond fe'i cynrychiolwyd gan ei ferch, Haf, sydd hefyd yn fardd. Darllenodd hi'r gerdd yn y seremoni a chymerodd ran yn y dadorchuddio gyda Roy Guy a James Dean Bradfield o fand y Manic Street Preachers.

cafodd y digwyddiad sylw ar y cyfryngau, gan gynnwys y South Wales Argus., a'r BBC. Ceir fideo o'r digwyddiad yma.

Roy Guy's painting



Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia