Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

29/07/2004

Nofel gyfoes am frwydr yr iaith

Dyma ddatganiad i'r wasg am lyfr diweddaraf Grahame Davies, Rhaid i Bopeth Newid:

DATGANIAD I’R WASG

Bardd yn troi at fyd y nofel

Mae’r bardd dychanol, Grahame Davies, ar fin cyhoeddi ei nofel gyntaf yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd eleni. Daeth y bardd i amlygrwydd gyda’i gyfrol Cadwyni Rhyddid a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2002, ac a heriodd fywyd cyfforddus cyfryngis y brifddinas gyda chyfuniad o’r dychanol a’r deifiol.

Yn ei nofel gyntaf, Rhaid i Bopeth Newid, a gyhoeddir gan wasg Gomer, mae’r cynfas wedi ehangu wrth iddo ddilyn hynt y gydwybod radical yng Nghymru wedi datganoli. Y tro hwn, ceir cwestiynau caled nid yn unig i elynion y Gymraeg, ond i’w chyfeillion, ac nid yn unig i’r gwleidyddion ond i’r ymgyrchwyr hefyd.

Dwy ferch a dau gyfnod sy’n sail i’w nofel. Mae Meinwen Jones wedi bod yn ymgyrchu’n ddiflino dros yr iaith Gymraeg ers cyfnod ei harddegau. Bellach, a hithau ar drothwy ei deugain oed, mae’n wynebu cwestiynau anodd. Mae Cymru heddiw, Cymru oes y Cynulliad, yn ddieithr ac oeraidd iddi: hen ffrindiau’n colli ffydd a hen elynion yn magu hyder. Gyda’r wlad fel pe bai’n newid o dan ei thraed, does ond un peth sicr – dyw Meinwen ddim am blygu i’r drefn. Wedi’r cyfan, mae ganddi ei hysbrydoliaeth, ei harwres: yr ymgyrchwraig eiconig, Simone Weil.

Un o ferched disgleiriaf ei chenhedlaeth oedd Simone Weil, un o elît academaidd Ffrainc rhwng y ddau Ryfel Byd. Ond roedd yr ysfa am gyfiawnder yn llosgi ynddi, yn ei gyrru i roi heibio’i gyrfa brifysgol er mwyn uniaethu â gweithwyr a’r tlodion. Wrth herio gormes ar y chwith ac ar y dde gyda geiriau, gweithredoedd a’r gwn, roedd hi’n fodlon aberthu unrhyw beth er mwyn yr achos: gyrfa, teulu, cariad – hyd yn oed ei bywyd ei hun. Doedd Simone ddim yn fodlon ildio, a dyw Meinwen ddim yn fodlon ildio chwaith.

Ond ‘Rhaid i bopeth newid’ yw slogan yr ymgyrch, ac wrth i Meinwen geisio deffro cydwybod ei chenedl gysglyd, dinoethir rhagrith ac awydd am gyfaddawd y Gymru gyfoes ar bob ochr. Ond os yw ‘popeth’ yn golygu popeth, yna rhaid i Meinwen ei hunan ystyried a yw hi’n fodlon i’r newid ymestyn iddi hi ei hun. A fydd hi’n fodlon gwneud penderfyniad fydd yn newid ei byd am byth?

Yn ôl y nofelydd Owen Martell mae Rhaid i Bopeth Newid yn "ddeunydd darllen anhepgorol i unrhyw un sy' eisiau mynd dan groen y ddadl am yr iaith Gymraeg – a hynny o'r ddwy ‘ochr’ fel petai.

"Mae'r portread o Simone Weil yn hyfryd – yn syml ac uniongyrchol ond hefyd yn hyfryd o ansicr a profound. Felly hefyd y portread o Meinwen – sydd ar ei ennill yn sicr o'r cyferbyniad â Simone Weil," meddai.

"Mae yna sylwadau craff a hollol addas ar y newidiadau a fu, ac a fydd eu hangen, ar y mudiad iaith, ac ar y Gymru ehangach fel ei gilydd. Ac mae yna olygfeydd o brydferthwch a dyfnder digamsyniol yma hefyd. Nofel gampus yn wir."

Caiff Rhaid i Bopeth Newid ei lansio yn swyddogol yn siop C@ban , Pontcanna, Caerdydd nos Iau, 5 Awst am 7.30pm.

Manylion llyfryddol
Rhaid i Bopeth Newid
Grahame Davies
£7.99, 1 84323 412 2, Gwasg Gomer, cm, 272tt.

Am fwy o wybodaeth, copi adolygu neu JPEG o glawr y gyfrol neu’r awdur cysylltwch â: Nia Jenkins Swyddog Marchnata, Gwasg Gomer Ffôn: 01559 362371

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia