Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

29/11/2009

Seico-ddaearyddiaeth Gymreig America.

Yn hwyr ym mis Hydref, fe ymwelodd Grahame Davies â'r Unol Daleithiau gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ar gyfer taith ddarlithio a chreadigol i Bennsylfania, Vermont ac Efrog Newydd. Bu'n westai ym mhrifysgol King's College, Wilkes Barre, Pennsylfania, gan berfformio darlleniad a chynnal seminarau gyda myfyrwyr. Rhoddodd ddarlleniadau hefyd yn Jim Thorpe ac yn y Scranton Cultural Centre, a drefnwyd gan y Mulberry Poets and Writers Association a'r Gymdeithas Dewi Sant leol. Ymwelodd hefyd ag ardal Poultney yn nhalaith Vermont, lle perfformiodd ddarlleniad yn Green Mountain College gyda Gary Lindorff. Yn y ddau le, bu'n gweithio gydag artistiaid Americanaidd ar gyweithiau yn delio gyda seicoddaearyddiaeth America Gymreig. Gwnaeth ddarlleniad hefyd mewn noson gelfyddydol yn Asch's Barn, Vermont, gyda'r awdur Frank Asch a Gary Lindorff. Ar Hydref 30, fe berfformiodd gyda'r baswr o Gymro Americanaidd Michael Douglas Jones mewn noson Geltaidd i ddathlu Calan Gaeaf yn llysgenhadaeth Iwerddon yn Efrog Newydd.


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia