Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

29/07/2008

Portread wedi'i brynu ar gyfer llyfrgell

Ar ddydd Gwener Medi 12 perfformiodd Grahame Davies y seremoni agoriadol ar gyfer llyfrgell canolfan gymunedol newydd Plas Pentwyn yng Nghoedpoeth ger Wrecsam. Fel rhan o'r seremoni, fe ddadorchuddiodd Grahame Davies ddarlun ohono ef ei hun gan Lorraine Bewsey. Mae'r portread, un o gyfres a baentiwyd gan Lorraine Bewsey ar gyfer yr arddangosfa Portreadau'r Beirdd a fu ar daith o amgylch Cymru, wedi cael ei brynu gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Wrecsam i'w arddangos yn llyfrgell y ganolfan newydd. Perfformiodd Grahame Davies ddarlleniad llenyddol fel rhan o'r seremoni agoriadol yn y ganolfan, a saif dim ond llathenni o'r ty lle cafodd ef ei eni. Y diwrnod canlynol, fe gynhaliodd weithdai ysgrifennu creadigol yn y ganolfan. Mae'r llun yn dangos Grahame Davies gyda Tom James o Goedpoeth, enillydd medal aur am rwyfo yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008 Coedpoeth. Ef a berfformiodd seremoni agor y ganolfan gyfan. Yn y llun hefyd mae'r artist, Lorraine Bewsey, Maer Wrecsam, y Cynghorydd David Griffiths, a'r Cynghorydd Bob Dutton, OBE.

Agor Plas Pentwyn

Dengys yr ail lun y Cynghorydd Bob Dutton OBE yn cyflwyno copi o'r portread i Grahame Davies.

Agor Plas Pentwyn

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia