Llyfrau/Adolygu: |
NEWYDDION DIWEDDARAF 19/02/2007 Agor arddangosfa gelf. Ar Chwefror 16, agorodd Grahame Davies yr arddangosfa 'Salvage' gan yr artist o Gaerdydd Nigel Talbot yn Oriel Mon yn Llangefni. Mae'r arddangosfa yn cynnwys gweithiau celf mawrion sydd wedi eu creu o ddeunydd gwastraff, ac mae wedi ei chysylltu â hanes morwrol a diwydiannol yr ynys. Mae un o'r gweithiau yn cynnwys cerdd gan Grahame Davies, sydd wedi gweithio gyda Nigel Talbot yn y gorffennol wrth ganfod geiriau ar gyfer y cerfluniau sydd wedi eu gosod ar hyd Taith Taf rhwng Merthyr a Chaerdydd.
|
Crewyd y wefan gan
Mabmedia |