Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

03/03/2006

Agoriad swyddogol y Senedd.

Ar Ddydd Gwyl Ddewi, Mawrth 1, 2006, bu Grahame Davies yn cymryd rhan yn y dathliadau swyddogol i nodi agoriad y Senedd, sef cartref newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewn prosiect a drefnwyd gan yr Academi bu'n gweithio gyda Sgwad Sgwennu Cymraeg ardal Merthyr Tudful, sef plant o ysgolion Santes Tudful a Rhyd y Grug, i gynhyrchu cerddi i'w darllen yn y digwyddiadau swyddogol i ddathlu'r achlysur. Cynhyrchodd y plant dair cerdd, 'Wrth Ddwr a Thân', 'Calon Cymru' a 'Rwy'n Naw Mlwydd Oed', a chafodd y rhain eu darllen yn yr adeilad newydd fel rhan o'r dathliadau. Ceir datganiad i'r wasg am y digwyddiad yma. Ceir y cerddi isod:

Wrth Ddwr a Thân

Wrth ddwr a thân a thonnau’r môr
Fe aeth ein glo i yrru’r byd
O’r porthladd hwn ar longau pren
I dwymo tai a’u cadw’n glyd.
Fe hwyliodd ein haearn ar fadau mân
I godi rheilffyrdd wrth ddwr a thân.

Wrth ddwr a thân mae pwer gwres
Yn codi o’r ddaear yn ffynnon fflamau
Heb losgi, heb ddifa, heb frifo dim.
I ddod â grym a gwres a golau
I ganu cread, i gynnau cân
I gynnig gobaith, wrth ddwr a thân.

Wrth ddwr a thân, mae gyrru gwlad,
Y gwir i’ch cynnal wrth eich gwaith
Yn cadw, llafurio a rhyddhau
Ac arwain Cymru ar ei thaith.
Rhydd fel y môr a’r tonnau glân
I newid byd wrth ddwr a thân.

Gan: Thomas Davies, Zoe Evans, Cerys Hancox, Aimee Jones, Callum Jones, Eleri Kent


Naw Mlwydd Oed

Dwi’n naw mlwydd oed
ac yn dal i ddysgu a thyfu
Y profiadau newydd pob dydd
sy’n fy helpu i ddatblygu

Ar y dechrau ges i fy ngeni
mas o’r duwch a mewn i’r dydd
Anadlais yn ddwfn am y tro cyntaf
yn barod i brofi popeth sydd

O’r cychwyn cyntaf dechreuais gynyddu
O ddechreuad bychan daw pethau mawr
O’r hedyn lleiaf mae blodyn yn ymddangos
Sy’n agor ei betalau i oleuni’r wawr

Dwi’n naw mlwydd oed
Ac yn barod i aeddfedu
Fi yw eich dyfodol, eich gobaith, eich rhyddid
Nawr, gwyliwch fi, Gymru.

Gan: Eliza Ashford, Mari Evans, Abigayle O’Sullivan, Abigail Williams–Clement.

Calon Cymru
Calon Cymru
mor goch â’r ddraig.
Angen nerth i gadw ’i fynd.

Calon Cymru
yn pwmpio’n gryf.
Gweithio’n galed i gefnogi’n byd.

Calon Cymru
craidd cymuned
curo’n gyflym, egni bywyd.

Tân pwerus, peiriant newydd
corff sy’n gynnes iach a gonest.

Rheoli bywyd trwy ein teithiau
Gwaed yn gwthio trwy’n gweithiennau.

Gwlad sy’n tyfu,corff hyderus,
egni bywiog, pwysig hapus.

Calon Cymru.
Gad iddi barhau i ddysgu.
Gad iddi barhau i garu.
Gad iddi barhau i ganu.....


Gan: Jack Grifiths, Kameron Harrhy, Rhys Lewis-Jones, Ellice Puddy, Jon-Ethan Richards, Joseff Reed.

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia