Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

15/03/2015

Seren Hollywood yn dyfynnu cerdd mewn rhaglen ddogfen.

Ar ddydd Mawrth, Chwefror 24ain ar BBC Two, fe gyflwynodd yr actor Hollywood Michael Sheen ei ymateb personol i wrthryfel y Siartwyr yn 1839.

Caeodd ei raglen, 'A Valleys Rebellion', a wnaethpwyd er mwyn cofio 175 mlynedd ers gwrthdystiadau'r Siartwyr, drwy ddyfynnu diwedd cerdd gan Grahame Davies.

...We only ask you this - that you live well,
here, in the places that our labour built,
here, beneath the sky we seldom saw,
here, on the green earth whose black vein we mined,
and feel the freedom that we could not find.

Dilynodd y rhaglen orymdaeth dyngedfennol y 5,000 o wrthryfelwyr yn 1839, a ymgasglodd wrth westy'r Westgate Hotel yng Nghasnewydd i dynnu diwygiadau seneddol a chymdeithasol. Drwy'r rhaglen ddogfen fe archwiliodd Mr Sheen eu hanes tra'n cymharu'r sefyllfa gyda hanes cyfoes y Cymoedd .

Cafodd y gerdd ei hysgrifennu er cof am y rhai a laddwyd yng nhrychineb glofa'r Prince of Wales yn 1878 ac y mae i'w gweld yn neuadd goffa'r glwoyr yn Nhrecelyn, sef y 'Memo'.

Michael Sheen's Valleys Rebellion

Michael Screen yn cyflwyno 'A Valleys Rebellion'.

 

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia