Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

10/02/2017

Dadorchuddio portread gan Roy Guy

Ar ddydd Gwener Chwefror 10fed, cynhalwyd derbyniad yng Nghanolfan Soar ym Merthyr Tudful i nodi dadorchuddio darlun gan yr arlunydd Roy Guy a ysbrydolwyd gan waith Grahame Davies, a fun byw am gyfnod sylweddol ym Merthyr.

Darlun Roy Guy

Y mae Roy Guy, o Drecelyn, wedi portreadu nifer o ffigyrau amlwg yn hanes a diwylliant Cymru dros y blynyddoedd, ac y mae wedi coffau llawer o ddigwyddiadau hanesyddol hefyd, megis boddi pentref Capel Celyn a thrychineb glofar Prince of Wales yn Abercarn ym 1878.

Tran creur darlun hwnnw i goffau trychineb Abercarn, fe ddaeth Roy Guy i gysylltiad Grahame Davies, a ddarparodd gerdd i gyd-fynd r darlun cerdd a ddefnyddiwyd yn nes ymlaen gan yr actor Hollywood, Michael Sheen, fel diweddglo iw raglen deledu yn rhoi hanes mudiad y Siartwyr, A Valleys Rebellion, a ddarlledwyd ym mis Chwefror 2015.

The unveiling'

Bellach mae Roy wedi cynhyrchu llun yn darlunio gwaith Grahame Davies, a ddechreuodd ei yrfa lenyddol ym Merthyr Tudful, lle bun byw o 1986 tan 1997. Yn 1997, Canolfan Soar oedd lleoliad lansiad llyfr cyntaf Grahame Davies, y gyfrol farddoniaeth, Adennill Tir, a enillodd wobr a enwyd ar l awdur arall gyda chysylltiadau cryf r dref, sef Gwobr Goffa Harri Webb.

Ugain mlynedd wedir lansiad honno, mae darlun trawiadol Roy Guy wedi cael cartref parhaol yn yr union ystafell lle lansiwyd y gyfrol honno. Yn y derbyniad yng Nghanolfan Soar cafwyd esboniad byr gan Roy Guy or weledigaeth ar technegau y tu l iw waith celf, a darlleniad yn Gymraeg a Saesneg gan Grahame Davies, yn canolbwyntio ar gerddi a ddarlunir yn y llun.

Y mae dau o luniau Roy Guy eisoes iw gweld ym Merthyr. Mae ei ddarlun or hanesydd Gwyn Alff Williams iw gweld yn Llyfrgell Dowlais, ai ddarlun or Philip Madoc yn y Llyfrgell Ganolog.

Y gwaith gyda Roy Guy ywr diweddaraf o nifer o brosiectau celfyddydol ym Merthyr sydd yn rhoi sylw i waith Grahame Davies. Y mae ei farddoniaeth yn ymddangos ar y meinciau gwenithfaen pinc yng ngahnol y dref ac yn ymddangos hefyd ar nifer o gerfluniau gan yr artist Nigel Talbot ar hyd Llwybr Taf, gan gynnwys yn Aberfan ac yng Nghefn Coed y Cymer.

Yn ogystal, y mae gwaith a gynhyrchwyd mewn gweithdai ysgrifennu creadigol gyda phobl leol o dan ei arweiniad yn ymddangos mewn cerfluniau ar y Tramroad, a bydd eraill yn cael eu cynnwys mewn gwethiau celf yn natblygiad newydd Sgwr y Castell.

Yn ogystal, ym mis Hydref y llynedd, ynghyd r bardd Tony Curtis, fe gomisiynwyd Grahame Davies i ysgrifennu cyfres o gerddi i goffau Trychineb Aberfan, i gyd-fynd ag arddangosfa o ffotograffau gan Chuck Rappaport, a ddangoswyd yn y Red House ym Merthyr.

Dyma esboniad o ddelweddaeth llun Roy Guy

Y mae ffigwr canolog y bardd yn rhannur cynfas yn ddau, gydar diwylliant Cymraeg yn cael ei arddangos yn bennaf ar yr ochr dde (o safbwynt y gwyliwr) ar Saesneg ar y chwith.

Gan deithio yn null y cloc o ben y ffigwr, fe welir: cefndir o fryniau yn dangos tirwedd ardal enedigol y bardd ym mhentref Coedpoeth yn ardal lofaol gogledd ddwyrain Cymru; nesaf, wedi ei chau mewn cylch, gwelir draig yn gwarched pentwr o lyfrau syn dynodi gwaith Cymraeg y bardd, ar angen i amddiffyn yr iaith Gymraeg; nesaf, ceir twr eglwys yn dynodi ei ffydd fel Eglwyswr.

Ar y brig ar y dde ceir cenhinen Pedr Cymru, tra bod y ffigyrau gwrywaidd ar y dde ac ar y gwaelod yn dangos olyniaeth gwahanol genedlaethau; maen nhw wedi eu cyplysu gyda delwedd embryonaidd yn awgrymu genedigaeth y gerdd, a golygfa o gerrig beddi yn awgrymu dau begwn bywyd fel a welir yng ngwaith y bardd, yn enwedig yn y gerdd Ymadawedig.

Wrth droed y ffigwr, ceir panel glas gydag awgrym o amlinell y morfil chwedlonol, Moby Dick, sef ysbrydoliaeth gerdd deitl y gyfrol Lightning Beneath the Sea.

Yn union ar chwith y ffigwr, ceir llun o ddynes yn darllen llyfr, a welir mewn amlinell or tu l drwy ffenestr, fel yn y gerdd Reader. Ar ochr chwith y ddynes, yn dilyn y symbol Groegaidd Sigma, ceir pianydd, a ysbrydolwyd gan y gerdd Piano Solo. Uwchben y pianydd, ar risiau troellog, fe saif y ffigwr benywaidd dirgelaidd a thywyll a geir yn y gerdd Plas Power.

Nesaf ati hi, mewn cylch, a chyda channwyll olau ar ei ben, ceir pentwr arall o lyfrau mwy nar pentwr cyfatebol ar ochr arall y cynfas, a thrwy hynny yn dynodi cryfder cymharol yr iaith Saesneg. Uwchben hwnnw, ac yn gwrthbwysor genhinen Pedr ar yr ochr dde, ceir rhosyn Lloegr, er mai rhosyn y Tuduriaid yw hwn, syn symboleiddio uno hanes Cymru a Lloegr.

Ar frig y cynfas, gwelir pwll glo i gynrychioli treftadaeth lofaol teulur bardd. Maer ddelwedd hon hefyd yn dangos glofar Prince of Wales yn Abercarn, lle digwyddodd trychineb erchyll yn 1878. Wrth greu gwaith celf i goffaur ddamwain honno y daeth Grahame Davies a Roy Guy i gysylltiad gyntaf oll.

Yn olaf, y maer ddynes ifanc mewn coch yn union tu l i gefn y bardd yn cynrychiolir ffigwr a geir yn y gerdd Crossroads.


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia