Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

2/11/2011

Cerfluniau cerddi i'r Cymoedd

Cafodd cerddi a gynhyrchwyd gan Grahame Davies yn gweithio gyda disgyblion ysgol lleol eu gosod mewn carreg gan yr artist Adam Williamson ar hyd llwybr newydd yng Nghwm Llynfi.

Bydd y llwybr 2.5 km newydd rhwng Maesteg a Chaerau yn darparu ffordd ddiogel i bobl gymudo i'r ysgolion cyfun a chynradd lleol, tra'n cynig cyfleoedd gwych i dwristiaeth yn y rhan hardd hwn o'r Cymoedd.

Y mae'r llwybr trawiadol yn cynnwys gweithiau celf gwych a ysbrydolwyd gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Maesteg ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llangynwyd, yn gweithio gyda'r beirdd Grahame Davies yn Gymraeg a Mike Church yn Saesneg.

Y mae'r prosiect wedi ei gefnogi gan y rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy Sustrans ac mae'n ffurfio rhan o gynllun strategol i ddatblygu'r rhwydwaith seiclo yn yr ardal hon o Ben-y-bont ar Ogwr.

Y Gweinidoh Trafnidiaeth Carl Sargeant, a'r Cynghorydd Philip White, sef aelod Cabinet Cyngor Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer Cymunedau a agorodd y llwybr yn swyddogol.

Gellir darllen adroddiad Wales Online ar y prosiect yma.

Gellir gweld oriel luniau o'r agoriad swyddogol ac o'r gwithiau celf gorffenedig yma.

Sculpted poem

Sculpted bench

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia