Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

12/06/2002

Taith i Dalaith Efrog Newydd

Ym mis Mai 2002, traddodais ddwy ddarlith yn Syracuse, Talaith Efrog Newydd, yng nghynhadledd Naaswch, (y National Association for the Study of Welsh Culture and History). pwnc un o'r darlithoedd oedd agweddau Cymry tuag at yr Iddewon, a phwnc y llall oedd testun fy noethuriaeth, sef y berthynas rhwng T.S.Eliot, Simone Weil, Saunders Lewis ac R.S.Thomas fel llenorion gwrth-fodern. Roedd Syracuse yn dipyn o gartref oddi-cartref, gyda llawer o wynebau cyfarwydd o Gymru yn bresennol, megis Peter Finch, Iwan Bala, a Jane Aaron. Gallech ddarllen adroddiad Peter ar daith a wneuthum i bentre cyfagos oedd â'r enw, "Cardiff", yma. http://dspace.dial.pipex.com/peter.finch/cardUSA.htm Ac fe geir fy adroddiad innau ar y gynhadleddyma. Tra'r oeddwn yn y cyffiniau, achubais y cyfle i ymweld â rhaeadr Niagara Falls, ac i alw ar ffrindiau yn yr Hudson Valley ac yn ninas Efrog Newydd ei hun.


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia