Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

NEWYDDION DIWEDDARAF

24/07/2014

Gwyl Seiniau a Mannau Sanctaidd, Tyndyrn.

Eglwys San Mihangel yn mhentref Tyndyrn yn Sir Fynwy oedd lleoliad swynol y 'Sacred Site and Sound Festival', ar Orffennaf 18fed.

Darllenodd Grahame Davies nifer o gerddi yn y Gymraeg a'r Saesneg yn y digwyddiad hwn oedd wedi llenwi'r eglwys i glywed perfformiadau gan y fiolinydd a'r soprano enwog David Juritz a Ros Keating a'r Pedwarawd Llinynnol Parva Springs. Ceir erthygl am y digwyddiad yma.

Nodweddwyd y rhaglen yn St Michael’gan gerddoriaeth ar gyfer y llais unigol, y fiolin a'r côr a gomisiynwyd gan Celia Harper, sylfaenydd Sulis Music, grwp o gerddorion clasurol amlwg sydd yn ymddiddori yng ngalluoedd iachaol cerddoriaeth. Hefyd, perfformiwyd pedwarawd llinynnol newydd a gyfansoddwyd yn arbennig gan Fiona Frank. Gorffennodd y noson drwy lansio fflyd o ganhwyllau ar wyneb Afon Gwy.

Drannoeth, yn Abaty Tyndyrn, perfformiwyd gweithiau sanctaidd corawl a cherddorfaol gan John Tavener, Arvo Pärt, Henryk Gorecki a Benjamin Britten, gan Gerddorfa Siambr Cymru dan gyfarwyddyd Anthony Hose, a a Chôr Siambr Cantemus dan gyfarwyddyd Huw Williams, cyfarwyddwr cerdd y Capel Brenhinol ym mhalas St James, a chyn brif organydd Cadeirlan St. Paul.

canolbwynt yr wyl oedd perfformiad o waith Sir John Tavener, 'Protecting the Veil' ar gyfer soddgrwth a llinynnau, a ysbrydolwyd gan y Forwyn Fair, sef Noddwraig yr Abaty. Perfformiwyd y darn gan Gerddorfa Siambr Cymru gyda Kathryn Price yn chwarae'r soddgrwth.

dengys y llun isod ddechrau'r digwyddiad yn eglwys Tyndyrn.

The event at St Michael's Tintern

 

 


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia