Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

17/07/2017

Comisiwn i goffau canmlwyddiant Brwydr Cefnen Vimy.

Ar Orffennaf 15fed, cafodd comisiwn cerddorol newydd i goffau canmlwyddiant Brwydr Cefnen Vimy yn y Rhyfel Byd Cyntaf ei berfformio yng ngwyl JAM on the Marsh yn Romsey Marsh yng Nghaint, gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr o'r Alban Tom Harrold a'r cyfansoddwr o Ganada Stuart Beatch, yn gosod geiriau a gyfansoddwyd yn arbennig gan Grahame Davies.

Mae'r gwaith, ‘Voices of Vimy’ wedi ei gomisynu gan yr wyl a chan ProCoro Canada, côr professiynol o Edmonton, ac fe gafodd ei berfformio gan y BBC Singers, gydag un o chwaraewyr soddgrwth amlycaf y DU, – Jamie Walton, dan arweiniad un o organyddion gorau'r wlad,– Daniel Cook. Bydd y cyngerdd yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Three.



Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia