Cartref:
Home:

Newyddion:
News:

Llyfrau/Adolygu:
Books/Reviews:


Cerddi
:
Poems:

Cysylltu:
Contact:

LLYFRAU

 

Alchemy of WaterAlcemi Dwr / Alchemy of Water
(Gomer, 2013), £19.99.

Dathliad o dir a phobol Cymru drwy farddoniaeth a ffotograffiaeth.

Mae'r gyfrol hardd hon yn cyfosod cerddi Saesneg gan Tony Curtis a cherddi Cymraeg gyda ffotograffau o dirwedd Cymru gan Mari Owen a Carl Ryan.

'Y mae dwr yn hollbresennol yn ein tirwedd a'n chwedlau, yn ein tywydd a'n geiriau, fel bod peryg inni fethu gwerthfawrogi rhywbeth mor hanfodol, mor anochel ac mor fywiol' (Grahame Davies)..

 

Dragon and the CrescentLightning Beneath the Sea
(Seren, 2012), £8.99.

"He is a thoughtful, meditative, serious poet and well worth reading." - Sheenagh Pugh

Lightning Beneath the Sea is the first collection of poems in English by Grahame Davies, featuring the work that he has honed over the years as he has read them at literary festivals, conferences and events world-wide. He is already well-known for his prize-winning Welsh-language poetry and fiction, and for his scholarly non-fiction. He brings a native warmth, and an intimate, conversational tone to these poems. He favours rhyme and metre in a number of memorable instances like ‘Capital Bookshop’ and ‘Valley Villanelle’; he can use a longer, narrative, free verse line as in ‘Dangerous’; and there are several ‘found’ poems as in the witty ‘The Complete Index of Welsh Emotions’. He observes other nations with the same keen, ironic eye that he casts on his own country and is as concerned with character and the vagaries of relationships as he is with wider cultural concerns.

 

Dragon and the CrescentThe Dragon and the Crescent
(Seren, 2011), £12.99.

Ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, mae digwyddiadau gwleidyddol diweddar wedi gwneud y berthynas rhwng y Gorllewin ac Islam yn destun diddordeb a thyndra dwys. Ond er mwyn deall ofnau'r presennol, rhaid yw olrhain eu gwreiddiau hanesyddol.

Dyna y mae The Dragon and the Crescent yn ei wneud ar gyfer un genedl Ewropeaidd fach, gan ddatgelu, am y tro cyntaf, stori lawn a rhyfeddol perthynas Cymru ag Islam.

Y mae'r astudiaeth helaeth hon wedi casglu 200 o ddarnau o lenyddiaeth Gymreig dros gyfnod o naw can mlynedd.

Y mae'n cynnwys deunyddiau llenyddol Croesgadwyr Cymreig, milwyr a morwyr, cenhadon a masnachwyr, arloeswyr ac anrheithwyr, pererinion duwiol ac oferwyr hedonistaidd.

Mae'n cynnwys deunydd cynnar megis taith Gerallt Gymro yn hel milwyr at y Croesgadau yn 1188, a deunydd cyfredol megis sylwebaeth ar helynt cartwnau Muhammad.

Y mae The Dragon and the Crescent yn gasgliad difyr a phryfoclyd sy'n cynnwys dyddiaduron, dramâu, nofelau, llyfrau taith a barddoniaeth. Ceir deunydd o ddwy brif iaith Cymru, gan awduron megis Ann Griffiths, T Gwynn Jones, Cynan, T.E. Lawrence, David Lloyd George, Gwenallt, Richard Llewellyn, Anthony Burgess, Alun Lewis, Alun Richards, Nigel Jenkins, William Owen Roberts, Peter Finch, Robert Minhinnick, Gwyneth Lewis a Horatio Clare.

Y mae dadansoddiad craff a thrylwyr Grahame Davies yn agor maes astudiaeth cwbl newydd, gan ddatgelu dylanwad enfawr Mwslemiaid ar Gymru a dylanwad llawn mor bwysfawr Cymru ar wledydd Islam.

Mae'n archwilio ymatebion cyfoes i dwf Islam yng Nghymru, gan fwrw goleuni newydd ar berthynas Cymru gyda'i lleiafrifoedd, a chan herio mythau am oddefgarwch Cymreig.

Dyma lyfr anhepgor i unrhywun sydd â diddordeb mewn perthynas rhyng-ddiwylliannol ac aml-ffydd. Dyma arolwg trawiadol a dadlennol o hanes Cymreig, Prydeinig ac Islamaidd, a llyfr o bwys mawr ar gyfer Prydain heddiw.


Adennill TirReal Wrexham
(Seren, 2007), £9.99. Ail-argraffwyd 2009

Wrecsam: Ffrynt Ddwyreiniol Cymru. Y fan lle torrodd llanw'r goresgyniad Sacsonaidd yn erbyn rhagfur y mynyddoedd. Y fan lle daeth Owain Glyndwr i'w briodas, lle daeth Elihu Yale i'w gladdu, a lle daeth cewri byd peldroed Lloegr i'w lladd. Tref y ffin yw hon lle mae tirweddau, acenion a chenhedloedd yn cwrdd ac yn cymysgu. Man lle mae'r mynydd-dir yn cwrdd â'r iseldir, lle mae Cymru yn cwrdd â Lloegr a lle mae'r Mabinogi yn cwrdd â Man U.

Mae tref fwyaf y Gogledd yn cael y driniaeth 'Real' gan y nofelydd a'r bardd Grahame Davies. Fe'i ganed yng Nghoedpoeth, ac er ei fod wedi teithio'n bell, y mae tref ei fagwraeth yn ei swyno o hyd. Gan gymysgu profiad personol, atgofion, hanes anewyddiaduraeth, y mae Davies yn edrych y tu hwnt i ddelwedd bob-dydd Wrecsam, gan ddod o hyd i gymuned arbennig iawn.

Ymhlith cymeriadau go-iawn Real Wrexham fe geir ffans peldroed obsesiynol, gyrrwr ceir rasio anlwcus, chwaraewr peldroed a drodd yn seicic ar deledu, nifer o offeiriaid oedd yn hoff o'r botel, dau o lesbiaid crachaidd - a blaidd-ddyn. Ymhlith y pynciau a ddaw o fewn rhychwant ei sylw fe geir: cyflafan ddirgelaidd, trychineb lofaol, taith o amgylch 'Gorllewin Gwyllt' y fwrdeistref, ac arweiniad i Wrecsamau eraill dros y byd. Hyd yn oed os oeddech chi'n meddwl eich bod yn 'nabod Wrecsam, fe gewch ddigon i'ch synnu yn y gyfrol hon.

Seren

Adennill TirEverything Must Change
(Seren, 2007), £7.99.

Nofel feddylgar a theimladwy am ddyfodol daliadau radical tanbaid yn y byd modern. Mae'r llyfr yn cyfosod stori'r athronydd a'r ymgyrchydd Ffrengig Simone Weil, gyda hanes yr ymgyrchydd dychmygol, Meinwen Jones, sydd ar goll yn y Gymru ol-ddatganoledig.

‘Yn athronyddol sylweddol… mae'n fy atgoffa o drioleg Jean-Paul Sartre o'r 1940au, Les Chemins de la Liberté [Llwybrau Rhyddid]. Yma, fe welir dewis y Gymru ol-ddatganoledig. Dyma'r nofel ol-genedlaetholaidd gyntaf. - Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

‘… a compelling glimpse of a compelling personality [Simone Weil]. The book is pertinent, provocative and thoroughly entertaining. Anybody with an interest in the way culture and identity inform the lives we make could read the book - and find in it rich nourishment. - Owen Martell.

Seren


Adennill TirGwyl y Blaidd / The Festival of the Wolf
(Parthian/Hafan, 2006), £6.99. Goln. Tom Cheesman, Grahame Davies, Sylvie Hoffman
.

Barddoniaeth, rhyddiaith, drama a thystiolaeth gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ochr yn ochr ag ysgrifenwyr eraill yng Nghymru, o'r gorffennol a'r presennol, gan gynnwys: Mahmood Ahmadifard, Alexander Cordell, Kate Bosse-Griffiths, Michael Mokako, Sieffre o Fynwy, Josef Herman a Soleiman Adel Guemar. Cyflwynir y gyfrol gyfan mewn testun cyfochrog Cymraeg a Saesneg. Rhoddir yr holl elw i elusennau ffoaduriaid.

Parthian
Hafan

Adennill TirAchos
(Barddas, 2005), £6.95

Yn ei gyfrol gyntaf Adennill Tir, fe fynegodd Grahame Davies brofiad cymunedau difreintiedig y Cymoedd gyda dicter ac angerdd. Yn ei ail gyfrol, Cadwyni Rhyddid, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn, fe ddinoethodd eironi a safonau dwbl y Gymru ôl-ddatganoli gyda ffraethineb deifiol. Yn awr, yn ei drydedd gyfrol, y mae'n bwrw golwg annibynnol ar y Gymru gyfoes, gan ofyn nifer o gwestiynau dyrys wrth holi, 'Sut mae'r achos?'

Barddas
Gwales

Adennill TirThe Big Book of Cardiff, goln. Peter Finch & Grahame Davies
(Seren, 2005), £9.99

Mae The Big Book of Cardiff, sydd wedi ei olygu gan Peter Finch a Grahame Davies, yn gasgliad newydd o ysgrifennu am Gaerdydd ar ei phenblwydd yn gant oed fel dinas, ac yn hanner cant oed fel prif-ddinas. Ynddo ceir cyfraniadau difyr a dadlennol gan Niall Griffiths, Dannie Abse, John Williams, James Hawes, Trezza Azzopardi, Sean Burke, Duncan Bush, Gillian Clarke, Anna Davis, Nia Williams, Lloyd Robson, Owen Martell, Gareth Miles, Elinor Wyn Reynolds, Emyr Humphreys a llawer mwy. Mae gwaith y llenorion Cymraeg yn ymddangos mewn cyfieithiadau Saesneg. Ceir mwy o fanylion ar wefan Peter Finch isod.

Peter Finch
Seren
Gwales
Amazon


Adennill TirRhaid i Bopeth Newid
(Gomer, 2004), £7.99

Rhestr Hir. Llyfr y Flwyddyn 2005

"Dyma'r nofel ôl-genedlaetholaidd gyntaf," Dafydd Elis-Thomas yn Taliesin.

Nofel gyntaf y bardd dychanol a ddaeth i amlygrwydd gyda’i gyfrol Cadwyni Rhyddid a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2002, ac a heriodd fywyd cyfforddus cyfryngis y brifddinas gyda chyfuniad o’r dychanol a’r deifiol. Yn ei nofel gyntaf, Rhaid i Bopeth Newid, a gyhoeddir gan wasg Gomer, mae’r cynfas wedi ehangu wrth iddo ddilyn hynt y gydwybod radical yng Nghymru wedi datganoli. Y tro hwn, ceir cwestiynau caled nid yn unig i elynion y Gymraeg, ond i’w chyfeillion, ac nid yn unig i’r gwleidyddion ond i’r ymgyrchwyr hefyd. Yn ôl y nofelydd Owen Martell mae Rhaid i Bopeth Newid yn "ddeunydd darllen anhepgorol i unrhyw un sy' eisiau mynd dan groen y ddadl am yr iaith Gymraeg – a hynny o'r ddwy ‘ochr’ fel petai."

Erthygl yn y Western Mail.
Gomer
Gwales
Amazon

 

Adennill TirNel país de la borrina. Antoloxía bilingüe asturiano/galés ('Gwlad y Cymylau. Blodeugerdd Astwreg/Cymraeg')
(Biblioteca Atlántica, 2004).

Casgliad o farddoniaeth gyfoes Gymraeg a olygwyd ac a gyflwynwyd gan Grahame Davies, yn ymddangos mewn testun cyfochrog gyda chyfieithiadau i'r iaith Astwreg gan Xavier Frías Conde. Mae'r gyfrol 149-tudalen yn cynnwys gwaith y beirdd canlynol: Emyr Lewis, Ifor ap Glyn, Elin ap Hywel, Gerwyn Wiliams, Grahame Davies, Huw Meirion Edwards, Elin Llwyd Morgan, Nici Beech, Mererid Puw Davies ac Elinor Wyn Reynolds. Mae'n rhoi cyfle i gyflwyno barddoniaeth Gymraeg i gynulleidfa newydd. Cafodd ei chynhyrchu gyda chymorth adran diwylliant llywodraeth Astwria a chyda chymorth ariannol Llenyddiaeth Cymru Dramor.
VTP Editorial
Llenyddiaeth Cymru Dramor
Cyfieithiadau Galiseg

.

Adennill TirNo país de la brétema. Antoloxía de poesía galesa contemporanéa ('Gwlad y Cymylau. Blodeugerdd Galiseg/Cymraeg')
(Biblioteca Atlántica, 2004).

Casgliad o farddoniaeth gyfoes Gymraeg a olygwyd ac a gyflwynwyd gan Grahame Davies, yn ymddangos mewn testun cyfochrog gyda chyfieithiadau i'r iaith Galiseg gan Xavier Frías Conde. Yr un yw'r cynnwys ag eiddo'r flodeugerdd Astwreg uchod. Ceir adolygiadau yma
ac yma
VTP Editorial
Llenyddiaeth Cymru Dramor


Cadwyni RhyddidCadwyni Rhyddid
(Barddas, 2001), £5.50

Yn ei gyfrol gyntaf, Adennill Tir (1997), a enillodd Wobr Goffa Harri Webb, cyflwynodd Grahame Davies ddarlun cignoeth o fywyd y Cymoedd yn ystod blynyddoedd llwm y nawdegau. Yma, yn y gyfrol newydd frathog hon, mae wedi troi ei olygon at ddinas Caerdydd, sydd bellach yn mwynhau manteision datganoli. Dadlennir bywyd Cymry Caerdydd o’r tu fewn. Dyma ‘dylwyth y trwsus lledr’, sy’n gwario mwy ar sesiwn steilio gwallt nag y mae rhai o’i cyd-Gymry yn ennill mewn wythnos; dyma ‘hil y sbectol haul’, sy’n meddwl mai Klein yw’r unig Calvin ac mai gormes yw cael dynes llnau sy’n methu siarad Cymraeg. Yn y gyfrol ddeifiol a phryfoclyd hon, sy’n cynnwys y dilyniant ‘Rhyddid’ a ddaeth yn ail am Goron y Brifwyl ym 1998, fe ddinoethir tyndra ac eironi bywyd y Gymru Newydd, gan ddangos bod gan hyd yn oed ryddid ei chadwyni.

Trafodaeth ar y llyfr ar Annedd y Cynganeddwyr
Gwales
Amazon

FfiniauFfiniau/Borders

(Gomer, 2002) £7.95
Cynrychiola Ffiniau/Borders briodas greadigol gynhyrfus rhwng dau gyferbyniol eu hawen, Elin ap Hywel yn fytholegol fenywaidd a Grahame Davies yn drefol wrywaidd... Daeth Elin ap Hywel i amlygrwydd cenedlaethol a hithau’n dal yn fyfyrwraig pan enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd am y gyfrol Cyfaddawdu (1980). Ddwy flynedd yn ddiweddarach ymddangosodd Pethau Brau (1982) yng nghyfres Beirdd Answyddogol y Lolfa. Fyth oddi ar hynny bu’n rhy dawedog o’r hanner fel bardd. Er mai’n gymharol hwyr y daethpwyd i wybod am dalentau creadigol Grahame Davies, gwnaeth ei farc yn fuan iawn: cyhoeddwyd Adennill Tir yn 1997 a Cadwyni Rhyddid yn 2001, y gyfrol dra llwyddiannus a enwyd yn Llyfr y Flwyddyn fis Mai 2002. Cyfrol ddwyieithog yw Ffiniau/Borders, y drydedd yng nghyfres gyffrous Gwasg Gomer Trosiadau/Translations, yn dilyn Triptych R. Gerallt Jones a Hen Dy Ffarm D. J. Williams. Hi felly yw’r gyntaf yn y gyfres gan awduron ar dir y byw sy’n dal i gyfansoddi, ac mae’r ddau yn ymgynnig yn berffaith ar gyfer cyfres bontio o’r fath.

Gomer
Gwales
Amazon

 


Adennill TirAdennill Tir
(Barddas, 1997), £4.95

Deillia’r rhan fwyaf o gerddi’r gyfrol hon o brofiad y bardd o fyw a gweithio yng Nghymoedd y De fel y maen nhw heddiw. Ceir yma olwg gignoeth ar y cymunedau hyn o safbwynt cenhedlaeth newydd o drigolion, cenhedlaeth y mae hen wirioneddau’r diwydiannau trwm a’r cymunedau clos yn atgof iddyn nhw yn unig. Y mae’r gyfrol yn rhoi llais i brofiad y Cymoedd heddiw, profiad o fathau newydd o galedi, ond hefyd profiad o obaith. Mae’r cerddi weithiau yn ddychanol ac yn sinigaidd, dro arall yn gynnes ac yn dosturiol, ac yn aml iawn yn cyfuno dychan a thosturi, condemniad a chydymdeimlad.
Gwales
Amazon



Sefyll yn y BlwchSefyll yn y Bwlch
(Gwasg Prifysgol Cymru, 1999)

Nid brwydro yn dros Gymru fu prif gymhelliad dau o brif arwyr y mudiad cenedlaethol yn yr ugeinfed ganrif, ond defnyddio Cymru yn faes y gad mewn rhyfel mwy yn erbyn y byd modern. Dyna ddadl awdur y gyfrol dreiddgar hon. I lawer, eiconau gwlatgar yw Saunders Lewis ac R.S. Thomas fel ei gilydd, ond, yn ôl Grahame Davies, eu prif symbyliad oedd nid cymaint amddiffyn Cymru rhag gormes Seisnigrwydd ond gwarchod yr ysbryd rhag y byd modern a’i fateroliaeth ronc. Yn y gyfrol arloesol hon, cawn gyfle i ailystyried arwyddocâd R.S. Thomas a Saunders Lewis trwy eu cymharu â T.S. Eliot a Simone Weil a’u gweld ill pedwar yn gynrychiolwyr mudiad gwrth-fodern eang. Perthynas amwys fu gan y ddau Gymro â Chymru, ac y mae edrych arnynt yng nghwmni Americanwr o Sais a Ffrances Iddewig yn estyn eu harwyddocâd y tu hwnt i gyfyngiadau’r dehongliad cenedlaethol arferol o’u gwaith.
Gwasg Prifysgol Cymru
Gwales
Amazon



OxygenOxygen
(Seren, 2000), £9.95

Dathlu asbri barddoniaeth gyfoes o Gymru, a rhoi braslun anhepgor o’i thalent newydd, dyna a wneir yn Oxygen. mae’n gymysgedd penfeddwol o gerddi yn y ddwy iaith gan ddeg ar hugain o feirdd o’r genhedlaeth iau yng Nghymru, gyda chyfieithiadau Saesneg yn gyfochrog â’r cerddi Cymraeg. Yn ddinesig ac yn wledig, yn eironig ac yn fywiog, yn delynegol ac yn angerddol, mae Oxygen yn tanlinellu safle barddoniaeth wrth galon un o ddiwylliannau hynaf Ewrop.
Seren
Gwales
Amazon


The Chosen People: Wales and the JewsThe Chosen People: Wales and the Jews
(Seren, 2002) £9.95

Dwy genedl fechan. Un stori hynod. Gan dynnu ar ffynonellau megis barddoniaeth, y ddrama, nofelau, straeon byrion, cofiannau a sgript ffilm, mae The Chosen People: Wales and the Jews yn datgelu'r ffyrdd gwahanol y mae'r Cymry wedi ymateb i'r Iddewon o'r chweched ganrif hyd at y presennol. Mae'n dadlennu agweddau yn amrywio o sarhad i gadarnhad ac o genhadaeth i gefnogaeth. Ymhlith yr awduron y ceir rhannau o’i gwaith yn y casgliad mae: Dannie Abse, Bernice Rubens, Leslie Thomas, Aneurin Bevan, Richard Burton, Henry Vaughan, W.G. Sebald, David Lloyd George, George Eliot, Saunders Lewis, W.J. Gruffudd, O.M. Edwards a T.E. Lawrence.
Seren
Gwales
Amazon


Cartref


Newyddion


Adolygiadau


Cerddi


Cysylltu

Crewyd y wefan gan
Mabmedia